En

Gradd Sylfaen Cyflyru, Adfer a Thylino Chwaraeon

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
18 Medi 2024

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I ennill lle ar y cwrs hwn, byddwch angen 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg Iaith (neu Gymraeg Iaith Gyntaf) a Mathemateg*, ac o leiaf un o'r meini prawf canlynol:

  • 96 pwynt tariff UCAS yn cynnwys graddau ar Lefel A2 neu Raddau Uwch yr Alban mewn pwnc perthnasol. Bagloriaeth Cymru - Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Uwch ei hystyried fel trydydd pwnc.
  • Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Cambridge gyda graddau TTT.
  • Diploma Estynedig VTCT mewn Astudiaethau Chwaraeon gyda graddau TTT ar y cyfan.
  • 96 pwynt tariff UCAS yn cynnwys graddau Uwch Tystysgrif Gadael Iwerddon yn cynnwys pwnc perthnasol;
  • Derbynnir cymwysterau cyfwerth â'r uchod hefyd.

Byddwn hefyd yn ystyried cryfder eich proffil academaidd cyffredinol, gan gynnwys eich proffil academaidd a chwaraeon.

Yn gryno

A ydych chi'n frwdfrydig dros yrfa mewn Cryfder a Chyflyru, Asesu Anafiadau, Adfer a Thylino Chwaraeon?

Os felly, mae ein Gradd Sylfaen mewn Cyflyru, Adfer a Thylino ym maes Chwaraeon yn rhoi cyfle i chi baratoi at waith yn y diwydiant hamdden a chwaraeon proffesiynol sy'n tyfu. Bydd hefyd yn datblygu sgiliau sy'n bodloni agweddau ar yr agenda iechyd a lles ehangach.

Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â modiwlau sy'n gwerthuso sylfaen wyddonol paratoi ac adfer perfformwyr mewn chwaraeon a datblygu sgiliau technegol mewn cyflyru ac adfer perfformwyr chwaraeon ac amrywiaeth o feinwe meddal/dulliau tylino. Mae'r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso egwyddorion ymarferion proffesiynol mewn amgylcheddau cystadleuol a heb fod yn gystadleuol, yn ogystal â'u paratoi at gyflogaeth a/neu astudiaeth yn y dyfodol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Hoffech ddatblygu'ch gyrfa yn y sector hamdden a chwaraeon proffesiynol

... Ydych yn awyddus i ddatblygu sgiliau i gefnogi iechyd a llesiant

... Ydych yn frwdfrydig dros weithio yn y meysydd Cryfder a Chyflyru, Asesu Anafiadau, Adfer a Thylino ym maes Chwaraeon

... Ydych yn chwilio am y cam nesaf yn eich gyrfa ac rydych yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd a gwella'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Wedi'i leoli ar Gampws Crosskeys Coleg Gwent a NIAC Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd â chyfleusterau o'r radd flaenaf, nod y cwrs yw datblygu gwybodaeth ddeallusol a dealltwriaeth o'r disgyblaethau academaidd a chysyniadau allweddol sy'n sylfaen i Gyflyru, Adfer a Thylino ym maes Chwaraeon yn y DU a thramor.

Mae'r Radd Sylfaen mewn Cyflyru, Adfer a Thylino ym maes Chwaraeon (SCRAM) wedi'i sefydlu fel triongl gyda sylfaen ehangach o gyd-destun sylfaenol a ymgymerir â hi ym mlynyddoedd 1 a 2 ar gampws Crosskeys Coleg Gwent, cyn i chi ganolbwyntio ar faes astudio arbenigol yn y flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae'r model hwn yn sicrhau y gallwch weithredu fel rhan o dîm aml-ddisgyblaethol, waeth beth fo'ch arbenigedd gyrfa yn y dyfodol.

Yn y flwyddyn astudio gyntaf, byddwch yn ymgymryd â chwe modiwl gorfodol:

Lefel 4 (blwyddyn un), Coleg Gwent, Campws Crosskeys:

  • Ymchwil ac Ysgoloriaeth
  • Datblygiad Proffesiynol
  • Anatomeg ac Asesiad Clinigol
  • Elfennau Sylfaenol mewn Cryfder a Chyflyru
  • Cyflwyniad i Dylino ym maes Chwaraeon ac Ymarferion Meinwe Meddal
  • Elfennau Sylfaenol Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Mae'r ail flwyddyn yn adeiladu ar y flwyddyn gyntaf, yn eich cynorthwyo chi i archwilio damcaniaethau sy'n sylfaen i feysydd craidd o gryfder a chyflyru, adfer a thylino ym maes chwaraeon gan ennill ffocws gwell ar gymhwyso'r wybodaeth hon:

Lefel 5 (blwyddyn dau), Coleg Gwent, Campws Crosskeys:

  • Dylunio ac Ymarfer Ymchwil
  • Hyfforddi Cryfder a Chyflyru
  • Patholeg Anafiadau ac Adferiad
  • Tylino ym maes Chwaraeon ac Ymarferion Meinwe Meddal
  • Mentergarwch mewn Chwaraeon ac Iechyd
  • Dulliau aml-ddisgyblaethol at Chwaraeon ac Iechyd

Dysgu ac Asesu

Gall y dulliau dysgu ac addysgu gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithiol hefyd yn agwedd annatod ar y pecyn dysgu a fydd yn cefnogi'ch astudiaethau.

Fel ysgol, rydym yn gweithio'n galed i gynnig cyfleoedd sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr ac sy'n cyflwyno amgylchedd dysgu hyblyg, o ansawdd. Mae prif ddarlithwyr yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, ac mae seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau allweddol gyda'r nod o atgyfnerthu eich profiad a'ch ymgysylltiad fel myfyriwr. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid ar sail un i un. 

Mae'r dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu beirniadol, ac yn annog integreiddiad ymarferion a damcaniaethau. Drwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunan-gyfeiriedig, gan fagu annibyniaeth a myfyrdod a'ch annog chi i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.

Mae nodweddion penodol o brofiad dysgu Cyflyru, Adfer a Thylino ym maes Chwaraeon (SCRAM) yn cynnwys defnyddio llyfryddiaeth ymchwil diweddar a Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (e.e. UKSCA, NSCA, SMA, BASRaT, Corff Llywodraethu Cenedlaethol, NGB, cymwysterau hyfforddi).

Mae'r dulliau asesu a ddefnyddir drwy gydol y cwrs wedi'u dylunio i atgyfnerthu eich profiad dysgu ac i gydnabod eich bod wedi cyflawni'r deilliannau dysgu sydd ynghlwm â phob modiwl. Asesir y modiwlau israddedig gan gyfuniad o fathau asesu:

  • Gwaith cwrs ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau poster
  • Cyflwyniadau llafar
  • Portffolios
  • Arholiadau gweledig ac anweledig
  • Sgiliau ymarferol
  • Gweithgareddau eraill wedi'u dylunio i asesu, datblygu a gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael pump TGAU yn cynnwys TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg Iaith Gyntaf) a Mathemateg* (gradd 4 neu uwch i ymgeiswyr sydd â TGAU newydd eu diwygio yn Lloegr).

*I ymgeiswyr o Gymru sy'n sefyll y TGAU Mathemateg diwygiedig, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Rifedd Mathemateg.

Gall cynigion nodweddiadol ofyn am:

  • 96 pwynt tariff UCAS yn cynnwys graddau ar Lefel A2 (gan gynnwys Astudiaethau Cyffredinol) neu Advanced Highers yr Alban yn cynnwys pwnc perthnasol. Bagloriaeth Cymru - Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Uwch ei hystyried fel trydydd pwnc.
  • Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Cambridge gyda graddau TTT.
  • Diploma Estynedig VTCT mewn Astudiaethau Chwaraeon gyda graddau TTT ar y cyfan.
  • 96 pwynt tariff UCAS yn cynnwys graddau Uwch Tystysgrif Gadael Iwerddon yn cynnwys pwnc perthnasol;
  • Derbynnir cymwysterau cyfwerth â'r uchod hefyd.

Fel arfer, gwneir cynnig yn seiliedig ar yr ystod tariff a fanylir uchod a chryfder eich cais cyffredinol, gan gynnwys eich proffil academaidd a chwaraeon.

I ymgeiswyr sy'n ymgymryd â 2 Lefel A yn unig (neu gyfwerth) neu nad oes disgwyl iddynt fodloni'r cynnig tariff safonol uchod, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gryfder y proffil academaidd cyfan ac mae'n bosibl y gwnawn gyhoeddi cynnig graddedig yn lle cynnig yn defnyddio Tariff UCAS.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Yn ystod eich blwyddyn astudio gyntaf, cewch gynnig y cyfle i ymgymryd â chymwysterau technegol mewn ystod o feysydd sy'n berthnasol i'r diwydiant, yn cynnwys hyfforddi chwaraeon, hyfforddiant ymarfer corff ac iechyd a diogelwch. Bydd y cyfleoedd hyn yn eich cefnogi chi i feddu ar gymwysterau a phrofiad priodol ychwanegol wrth i chi ddatblygu drwy'r rhaglen. Byddwn yn gweithio i'ch cefnogi i geisio profiad gwaith a chyfleoedd i weithio'n lleol a rhanbarthol, yn ogystal â thramor.

Mae myfyrwyr sydd wedi graddio o'r cwrs hwn wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a thu hwnt iddo.

Bellach, mae graddedigion diweddar yn gweithio mewn timau chwaraeon proffesiynol, timau chwaraeon academïau yn ogystal â chyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon. Mae nifer o fyfyrwyr hefyd yn manteisio ar gyfleoedd mewn practis clinigol preifat neu leoliadau'r diwydiant ffitrwydd.

Gallwch hefyd barhau i wneud astudiaeth bellach ym maes Ffisiotherapi neu raglenni Meistr, megis MSc Adfer ym maes Chwaraeon gyda chefnogaeth BASRaT neu MSc Cryfder a Chyflyru a mynd ymlaen ymhellach i astudiaethau ar lefel doethur.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen Cyflyru, Adfer a Thylino Chwaraeon?

CFDG0068AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 18 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr