En

Gradd Sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
10 Medi 2024

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

5 TGAU gradd C/4 neu'n uwch, mae'n rhaid iddynt gynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith (neu Gymraeg Iaith Gyntaf) ac o leiaf un pwnc Gwyddoniaeth. Ni dderbynnir unrhyw gymhwyster arall i'r TGAU. Yn ogystal, rhaid i chi feddu ar o leiaf 64 o bwyntiau UCAS (tariff newydd) gan gynnwys Lefel A mewn gwyddoniaeth fiolegol, Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC neu gymhwyster cyfwerth.

Dylech eisoes fod wedi ymgymryd ag o leiaf pythefnos o brofiad gwaith mewn practis milfeddygol anifeiliaid bach cyn cofrestru ar y cwrs hwn (ni fydd gwaith a wneir mewn cynelau cwn, cattery, canolfannau achub neu siopau anifeiliaid anwes yn bodloni'r maeni prawf hwn). Rhaid i chi allu darparu tystiolaeth o'r profiad gwaith hwn a rhaid iddo fod yn ddiweddar h.y. dim mwy na dwy flynedd cyn dyddiad eich cais.

Bydd angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Yn gryno

Byddwch yn ennill cymhwyster nyrsio clinigol yn seiliedig ar wybodaeth ategol o nyrsio milfeddygol.

 

Dyma'r cwrs i chi os...

...yw eich gwaith yn y proffesiwn milfeddygol a’ch bod yn dymuno cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.

...neu eich bod dim ond yn dechrau eich bywyd proffesiynol.

...ydych yn dymuno cael cymysgedd o astudio academaidd, dysgu yn seiliedig ar waith a datblygiad sgiliau.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd hyn yn eich galluogi i ddilyn gyrfa fel nyrs milfeddygol cymwys a byddwch yn gymwys ar gyfer mynediad i Gofrestr Nyrsys Milfeddygol Coleg Brenhinol y Llawfeddyg Milfeddygol (RCVS) (yn amodol ar amodau RCVS).

Bydd y cwrs yn cwmpasu agweddau damcaniaethol ac ymarferol o anatomeg a ffisioleg, iechyd a hwsmonaeth, sgiliau nyrsio milfeddygol, diagnosteg filfeddygol, ffarmacoleg, anaesthesia, gofal brys a dwys, ymddygiad anifeiliaid, cyfathrebu a moeseg.

Mae’r lleoliad clinigol a ymgymerir mewn milfeddygfa anifeiliaid bach yn rhoi’r cyfle i chi roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith ac adeiladu ar eich sgiliau nyrsio milfeddygol ymarferol a chwblhau Cofnod Cynnydd Nyrsio’r RCVS. Byddwch yn treulio 52 wythnos (1800 awr) yn gweithio llawn amser mewn milfeddygfa anifeiliaid bach.

Mae’r cwrs yn ddamcaniaethol ac ymarferol, felly fe gewch lawer o brofiad ymarferol i ymarfer yr hyn rydych chi wedi ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Mae arbenigwyr o faes nyrsio milfeddygol ac iechyd anifeiliaid yn cyflwyno darlithiau gwadd, a byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil a gwaith grwp lle bydd cyfleoedd ychwanegol i wrando ar ddarlithiau lle mae’r siaradwyr gorau yn y proffesiwn i’w cael.

Byddwch yn cael eich asesu gydag arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau. Yn ystod eich Lleoliad Clinigol, byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio Cofnod Cynnydd Nyrsio’r RCVS. Ar ddiwedd eich cwrs, ar gwblhau pob maen prawf arall yn llwyddiannus byddwch yn cael eich cyflwyno ar gyfer yr arholiadau ymarferol terfynol (O.S.C.E); dyma’r gofyniad terfynol i fod yn gymwys i fynd i mewn i Gofrestr Nyrsys Milfeddygol y RCVS.

Mae hyn yn golygu y byddwch yn Nyrs Milfeddygol Cofrestredig cyflawn cymwys ac yn gallu gweithio yn y DU fel nyrs milfeddygol anifeiliaid bach.

Byddwch yn ennill Gradd Sylfaen sy’n cyfateb i’r ddwy flynedd gyntaf o astudio (Lefel 4 a Lefel 5) ar raglen radd.

Dyfernir y cymhwyster hwn gan Brifysgol De Cymru. Byddwch yn ymwybodol fodd bynnag, oherwydd natur y cwrs hwn, fod gofyn i chi gwblhau gwerth blwyddyn o Leoliadau Clinigol, felly mae Gradd Sylfaen Nyrsio Milfeddygol yn cymryd tair blynedd i’w chwblhau.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs bydd angen 5 TGAU gradd C neu uwch, y mae'n rhaid iddynt gynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith (neu Gymraeg Iaith Gyntaf) ac o leiaf un pwnc Gwyddoniaeth. Ni dderbynnir unrhyw gymhwyster arall i'r TGAU. Yn ogystal, rhaid i chi feddu ar o leiaf 64 o bwyntiau UCAS (tariff newydd) gan gynnwys Lefel A mewn gwyddoniaeth fiolegol, Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC neu gymhwyster cyfwerth. 

Dylech eisoes fod wedi ymgymryd ag o leiaf pythefnos o brofiad gwaith mewn practis milfeddygol anifeiliaid bach cyn cofrestru ar y cwrs hwn (ni fydd gwaith a wneir mewn cynelau cwn, cattery, canolfannau achub neu siopau anifeiliaid anwes yn bodloni'r maeni prawf hwn). Rhaid i chi allu darparu tystiolaeth o'r profiad gwaith hwn a rhaid iddo fod yn ddiweddar h.y. dim mwy na dwy flynedd cyn dyddiad eich cais.

Mae hwn yn gwrs tair blynedd, llawn amser. Bydd disgwyl i chi fynychu’r coleg am sesiynau wedi eu hamserlennu o ddydd Llun i ddydd Gwener. Yn ystod eich Lleoliadau Clinigol bydd disgwyl i chi fynychu’n llawn amser ar y dyddiau a’r oriau a osodir gan eich Milfeddygfa Lleoliad Clinigol.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar gwblhau Gradd Sylfaen Nyrsio Milfeddygol a Chofnod Cynnydd Nyrsio RCVS yn llwyddiannus yn ogystal â llwyddo yn arholiadau ymarferol terfynol RCVS (O.S.C.E.s) a chwblhau’r nifer isafswm o oriau lleoliad Clinigol, byddwch yn gyflawn gymwys i ymarfer fel nyrs milfeddygol anifeiliaid bach yn y DU.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle cyffrous i fynd â’ch gyrfa academaidd i’r lefel nesaf ac astudio’r BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol yma yng Ngholeg Coleg Gwent.

Gwybodaeth Ychwanegol

Oherwydd elfen broffesiynol y cwrs hwn, mae'n rhaid i fyfyrwyr fodloni'r meini prawf canlynol a bydd angen iddynt dalu costau ychwanegol:

  • Llofnodi Datganiad Datgelu Coleg Gwent a Phrifysgol De Cymru yn cadarnhau bod y myfyriwr yn ymwybodol o ofynion Cymhwyster i Ymarfer Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS). Mae hyn yn cynnwys datgelu unrhyw anableddau a chyflyrau iechyd meddwl a chorfforol cyn cofrestru ar y cwrs, fel y gellir ystyried yn ofalus gallu'r myfyriwr i gwblhau Cymwyseddau Diwrnod Un a Sgiliau Diwrnod Un RCVS er mwyn cael ei gynnwys ar y Gofrestr Nyrsys Milfeddygol ar ôl graddio o'r cwrs
  • Cofrestru gyda RCVS fel Nyrs Filfeddygol dan Hyfforddiant £210
  • Gwiriad DBS Coleg Gwent £59.09 + gwasanaeth diweddaru £13 y flwyddyn
  • Bathodyn enw Nyrs Filfeddygol dan Hyfforddiant Coleg Gwent £6
  • Gwisg Nyrs Filfeddygol dan Hyfforddiant i'w defnyddio ar Leoliad Clinigol. Tua £45 yw cost un pâr o drowsus gwyrdd tywyll ac un diwnig llinellau gwyrdd/gwyn
  • Yn ogystal, byddwch angen clustnodi arian ar gyfer costau trafnidiaeth, llety a byw yn ystod eich Lleoliadau Clinigol, gan y byddwch yn gweithio'n llawn amser ac yn ddi-dâl fel intern yn ystod gwyliau'r haf ar ôl blwyddyn un a blwyddyn dau

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol?

UFDG0051AA
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 10 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr