En

Gradd Atodol BSc (Anrh) - Iechyd a Lles Anifeiliaid

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
11 Medi 2024

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
Mae'r Radd BSc (Anrh) Iechyd a Lles Anifeiliaid (Atodol) ar gyfer ymgeiswyr Blwyddyn 3 yn unig. Mae angen llwyddo yng Ngradd Sylfaen Iechyd a Lles Anifeiliaid yn Coleg Gwent, neu un o Golegau Partner Prifysgol De Cymru. Rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr sydd â Graddau Sylfaen mewn meysydd pwnc cyffelyb yn unigol.

Yn gryno

Mae’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sy’n cael eu magu trwy’r cwrs hwn yn ddymunol mewn amrywiaeth o ddiwydiannau amaethyddol

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych chi’n dymuno uwchraddio eich Gradd Sylfaen i Radd Anrhydedd lawn mewn Iechyd a Lles Anifeiliaid
... Ydych chi’n dymuno anelu at swydd raddedig yn eich maes dewisol
...  Ydych chi’n awyddus i gyfuno eich astudio gyda phrofiad ymarferol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd cwblhau’r Radd Atodol BSc (Anrh) Iechyd a Lles Anifeiliaid blwyddyn o hyd hon yn eich galluogi i gystadlu am swyddi graddedig wedi eu lleoli mewn diwydiannau iechyd a lles anifeiliaid fel y RSPCA, y Sector Milffeddygol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth Leol, Safonau Masnach, yr Heddlu, y Lluoedd Arfog a Dysgu. Bydd ein Gradd Iechyd a Lles Anifeiliaid yn eich cyflwyno i welliannau mewn ymarfer lles.

Bydd y cwrs 120 credyd yn cynnwys:

  • Modiwl ymchwil dan arweiniad prifysgol
  • Swoleg Fertebraidd
  • Moeseg a lles anifeiliaid
  • Gwelliannau mewn iechyd ac ymddygiad anifeiliaid
  • Maeth clinigol datblygedig.

Mae’r darlithwyr yn cynnwys Bethan Lewis, Kate Beavan RVN, Rhiannon Stundon RVN, Michelle Cooper, Jess Ingleson a Clare Clift RVN.

Bydd asesu yn amrywiol ac yn barhaol trwy gydol blwyddyn y cwrs i gynnwys trafodaeth a beirniadaethau grwp, prosiectau ymchwil, gwaith portffolio, cyflwyniadau, asesu ac adroddiadau ymarferol.

Ar gwblhau, byddwch yn ennill BSc (Anrh) Iechyd a Lles Anifeiliaid.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae’r Radd Atodol BSc (Anrh) Iechyd a Lles Anifeiliaid yn gwrs mynediad Blwyddyn 3 yn unig. Mae angen llwyddo yn y Radd Sylfaen mewn Iechyd a Lles Anifeiliaid yng Ngholeg Gwent, neu un o Golegau Partner Prifysgol De Cymru. Bydd ymgeiswyr gyda Graddau Sylfaen mewn meysydd pwnc tebyg yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae’r amserlen arferol ar gyfer y cwrs hwn yn rhedeg dros un/dau ddiwrnod yr wythnos a disgwylir i fyfyrwyr fynychu pob sesiwn. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 20 awr yr wythnos o astudio ac ymchwilio annibynnol. Bydd rhai sesiynau dysgu yn cael eu cynnal ar Gampws Glyntâf, Prifysgol De Cymru, Pontypridd, er y bydd y mwyafrif yn cael eu darparu ar Gampws Brynbuga Coleg Gwent.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Swydd raddedig wedi ei lleoli mewn diwydiant amaethyddol, fel y RSPCA, y Sector Milfeddygol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth Leol, Safonau Masnach, yr Heddlu, y Lluoedd Arfog a Dysgu.

Pe byddech yn dymuno parhau â’ch Addysg Uwch, gallech symud ymlaen i Radd Meistr berthynol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch yn cael eich dysgu trwy ddarlithiau, tiwtorialau a gwaith ymarferol. Gall rhywfaint o’r cyflwyno gael ei ddarparu gan siaradwyr gwadd. Mae astudio hunangyfeiriedig yn chwarae rhan ym mhob modiwl ac mae’n cael ei gefnogi gan amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol. Mae cyfran yr astudio hunangyfeiriedig yn dibynnu ar y modiwl a gall amrywio o 50% i 80%. Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd gan Goleg Gwent, ar ein Campws ym Mrynbuga a Phrifysgol De Cymru, yn Nhrefforest a bydd cyflwyno gwersi yn cael ei rannu rhwng Brynbuga a Threfforest.  Gofynnwch am fanylion pan fyddwch yn ymweld ag un o’n digwyddiadau agored.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gradd Atodol BSc (Anrh) - Iechyd a Lles Anifeiliaid?

UFDB0001AA
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 11 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr