YMCA Tystysgrif mewn Hyfforddi Campfa Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
I'w gadarnhau
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Amser Dechrau
09:15
Amser Gorffen
16:30
Hyd
14 wythnos
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion ar gyfer y cymhwyster hwn. Cynlluniwyd yn benodol ar gyfer y grŵp oedran 19+ ac mae'n seiliedig ar safonau Hyfforddwr y Gampfa a ddatblygwyd gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMPSA), ochr yn ochr â chyflogwyr y diwydiant. Cydnabyddir y cymhwyster hwn fel yr isafswm gofyniad ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant.
Yn gryno
Ydych eisiau dilyn gyrfa fel hyfforddwr ffitrwydd? Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r dechrau perffaith ichi, yn addysgu'r sgiliau a gwybodaeth theori ac ymarferol ichi ddod yn hyfforddwr cymwys.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i gael gwaith yn y dyfodol mewn campfeydd/clybiau iechyd yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd y rôl yn cynnwys cynnal ymgynghoriadau campfa, ymsefydlu ac ysgrifennu rhaglenni campfa sy'n gysylltiedig ag iechyd ar gyfer cleientiaid.
Dyma'r cwrs i chi os...
...Unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y gampfa/clwb iechyd
...Pobl sydd â diddordeb mewn ffitrwydd ac iechyd
... Y rhai sy'n mwynhau gweithio gyda phobl yn ddyddiol
...Unrhyw un sy'n dyheu am ddod yn Hyfforddwr Campfa.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â llu o fodiwlau, gan gynnwys:
- Anatomeg a Ffisioleg (arholiad)
- Iechyd, Diogelwch a Lles mewn Amgylchedd Ffitrwydd (gorfodol)
- Egwyddorion Ymarfer Corff, Ffitrwydd ac Iechyd (arholiad)
- Gwybod sut i gefnogi cleientiaid sy'n cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol (gorfodol)
- Cynllunio ac arwain ymarfer corff mewn campfa (ymarferol)
Bydd angen ichi fod yn hunan-gymhellol, gweithgar, prydlon ac ymrwymedig, yn frwd dros ddod yn hyfforddwr ffitrwydd cymwys ac yn benderfynol o lwyddo'r asesiadau ymarferol ac arholiadau theori, ynghyd ag ennill profiad ymarferol gwirfoddol mewn campfa ffitrwydd. Bydd angen ichi hefyd werthfawrogi bod y cwrs yn gofyn ichi ymrwymo i bresenoldeb a'r llwyth gwaith.
Byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio cyfuniad o arholiadau, unedau gorfodol a gwaith campfa, cyn eich dyfarnu â Thystysgrif Gwobr YCMA Lefel 2 mewn Hyfforddi Ffitrwydd (campfa). Yn dilyn y cwrs, gallwch ddod o hyd i waith mewn campfa ffitrwydd breifat neu gyhoeddus, neu symud ymlaen at Ddiploma Gwobr YMCA Lefel 3 mewn Hyfforddi Personol (yn ddibynnol ar brofiad).
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Cyflogaeth mewn campfa ffitrwydd gyhoeddus neu breifat
- Gwobrau YMCA - Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol (yn ddibynnol ar brofiad)
Gwybodaeth Ychwanegol
Addysgir y cwrs ar Gampws Crosskeys ar ddau ddiwrnod yr wythnos (dydd Llun a dydd Mawrth) dros 12 wythnos, rhwng 9:15 a 4:30pm rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2021.
Wedi ichi gofrestru, byddwch yn derbyn llyfr YMCA ar feysydd yr arholiad, a byddwch angen ei astudio cyn dechrau'r cwrs.
CPCE2126AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr