Gwaith Crosio Lefel Canolradd

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
I'w gadarnhau
Dyddiad Cychwyn
23 Hydref 2024
Dydd Llun
Amser Dechrau
18:00
Amser Gorffen
20:30
Hyd
29 wythnos
Yn gryno
Mae gwaith crosio lefel ganolradd wedi'i ddylunio i herio'r rhai sydd â sgiliau crosio sylfaenol ac eisiau eu gwella a'u datblygu i'r lefel nesaf.
Byddwch yn edrych ar bwythau mwy technegol megis pwythau Popgorn, Pili Pala a Chragen. Byddwch hefyd yn edrych ar gornel i gornel a phatrymau mwy cymhleth.
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddysgu patrymau cymhleth newydd, pwythau a thechnegau cywrain.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un gyda diddordeb mewn datblygu eu sgiliau crosio i lefel ganolradd.
Cynnwys y cwrs
Bydd y pynciau yn cynnwys:
- Adolygu pwythau sylfaenol
- Pwythau mwy cymhleth
- Dyluniad o gornel i gornel
- Gorffen pwythau (pwytho anweledig)
- Ymylwaith
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, dim ond diddordeb yn y pwnc. Dylech fod â dealltwriaeth o:
- Sut i grosio
- Crosio dwbl
- Crosio trebl
- Cynyddu a lleihau
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn ystod wythnos 1 cewch edau gwnïo trwchus a bachyn crosio 6mm. Bydd yr eitemau isod yn ofynnol ar gyfer gwersi dilynol ac yn cael eu trafod yn ystod y sesiynau:
- Bachau crochet o faint amrywiol
- Gwau dwbl ac edau drwchus mewn amrywiaeth o ddeunyddiau
- Nodwydd tapestri (neu gyfwerth) ar gyfer prosiectau gwnïo/gwehyddu tameidiau
Efallai y bydd rhaid prynu ychydig mwy o eitemau yn ystod y cwrs.
EPCE3195AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 23 Hydref 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr