En

NCFE/CACHE Tystysgrif mewn Deall Anawsterau Dysgu Penodol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£190.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
25 Chwefror 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
17:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:00

Hyd

Hyd
15 wythnos

Yn gryno

Nod y cymhwyster hwn yw rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am Anawsterau Dysgu Penodol gwahanol, sut maent yn cael eu diagnosio a sut gall unigolion gael eu cefnogi. Gall y cymhwyster gael ei ddefnyddio gan ystod eang o ddysgwyr sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth yn y maes pwnc hwn.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...staff addysgu, staff gofal neu unrhyw un sy’n dymuno adeiladu ei wybodaeth am ddyslecsia ac anawsterau dysgu eraill.

...y rhai sy’n gweithio ym meysydd gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs yn cynnwys 5 uned orfodol:

  • Deall Anawsterau Dysgu Penodol
  • Deall Effeithiau Anawsterau Dysgu Penodol
  • Deall Diagnosis Anawsterau Dysgu Penodol
  • Deall Cefnogi Unigolion ag Anawsterau Dysgu Penodol
  • Deall Cyd-destun Anawsterau Dysgu Penodol

Caiff y cwrs ei asesu gan eich tiwtor gan ddefnyddio portffolio o dystiolaeth.

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar wybodaeth yn unig felly nid oes angen bod yn gweithio ar hyn o bryd i’w astudio.

Gofynion Mynediad

Dylai dysgwyr fod dros 19 oed. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallai dysgwyr sy’n ennill y cymhwyster hwn symud ymlaen i gwrs:

  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Deall Awtistiaeth
  • Diploma Lefel 2 a Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Cymru
  • Tystysgrifau Lefel 2 a Lefel 3 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion
  • Diploma Lefel 2 a Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygu Plant
Ble alla i astudio NCFE/CACHE Tystysgrif mewn Deall Anawsterau Dysgu Penodol Lefel 2?

NPCE3643JS
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 25 Chwefror 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr