NCFE/CACHE Tystysgrif NCFE/CACHE mewn Deall Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
I'w gadarnhau
Dyddiad Cychwyn
25 Chwefror 2025
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
13:00
Amser Gorffen
16:00
Hyd
15 wythnos
Yn gryno
Nod y cymhwyster hwn yw cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth dysgwyr o iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sydd eisiau ennill a meithrin gwybodaeth am iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc.
...y rheini sydd am symud ymlaen i gymwysterau pellach
...y rheini sydd eisoes yn gweithio mewn swyddi sy'n gofyn i chi weithio gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys y sector addysg ac iechyd a gofal cymdeithasol.
Cynnwys y cwrs
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, mae'n ofynnol i ddysgwyr gwblhau pob un o'r 5 uned orfodol yn llwyddiannus, sy'n cynnwys:
1. Iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn ei gyd-destun
2. Ffactorau a allai effeithio ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc
3. Pryderon iechyd meddwl plant a phobl ifanc
4. Effaith pryderon iechyd meddwl plant a phobl ifanc
5. Sut i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â phryderon iechyd meddwl
Nid oes angen lleoliad ar gyfer y cwrs hwn. (Yn y cymhwyster hwn, mae plant a phobl ifanc yn cyfeirio at ystod oedran o 5 i 18 oed.)
Gofynion Mynediad
Dylai dysgwyr fod o leiaf 19 oed.
NPCE3642JS
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 25 Chwefror 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr