Yn gryno
Mae maes hyfforddiant personol ac anghenion hyfforddwyr personol proffesiynol modern yn datblygu'n gyflym yn unol ag anghenion a nodau eang y cleientiaid y maent yn eu gwasanaethu. O ganlyniad, nid yw'r diwydiant erioed wedi bod yn fwy cystadleuol. Mae hyfforddwyr personol llwyddiannus yn cael eu gyrru gan ganlyniadau ac yn gwahaniaethu'n hyderus y gwasanaethau a gynigir ganddynt i ddarparu gwasanaeth moesegol a chynnal busnes hynod lwyddiannus. Er mwyn ysgogi'r llwyddiant hwn mae dull mwy gwyddonol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o raglennu, hyfforddi, monitro a rheoli cleientiaid sy'n trosi i gyfraddau cadw cleientiaid yn well yn ogystal â denu cleientiaid newydd.
Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi’r gwybodaeth a sgiliau i ddysgwyr ddeall eu cleientiaid yn llawn, defnyddio dull rhaglennu sy'n seiliedig ar dystiolaeth a datblygu busnes hyfforddi personol llwyddiannus a chynaliadwy.
...Rydych yn teimlo fel chi moen ddatblygu eich sgiliau fel hyfforddwr personol ymhellach a darparu gwasanaeth mwy pwrpasol i'ch cleientiaid.
...Rydych am ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth fel ymarferydd hyfforddiant personol.
Mae dwy uned orfodol:
- Technegau cymhwysol i gefnogi, gwella a rheoli taith y cleient
- Symud cleientiaid ymlaen tuag at gyflawni nodau'n llwyddiannus
Bydd disgwyl i chi gyflawni lefel uchel o bresenoldeb a phrydlondeb fel rhan o'r cymhwyster hwn. Bydd angen i chi hefyd ddangos ymgysylltiad llawn ag elfennau ymarferol a damcaniaethol y cwrs.
Bydd disgwyl i chi gyflawni lefel uchel o bresenoldeb a phrydlondeb fel rhan o'r cymhwyster hwn. Bydd angen i chi hefyd ddangos ymgysylltiad llawn ag elfennau ymarferol a damcaniaethol y cwrs.
Mae’r cymhwyster hwn yn darparu dilyniant i’r cwrs:
- Lefel 4 Tystysgrif mewn Cryfhau a Chyflyru.
Efallai y byddech chi hefyd â diddordeb mewn astudio ar gwrs Tylino Chwaraeon Lefel 3 a Lefel 4 i gyd-fynd â’r cymhwyster hwn.
Rhaid i ddysgwyr feddu ar Ddiploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol (neu gyfwerth).
Mae’r cymhwyster hwn yn darparu dilyniant i’r cwrs:
- Lefel 4 Tystysgrif mewn Cryfhau a Chyflyru.
Efallai y byddech chi hefyd â diddordeb mewn astudio ar gwrs Tylino Chwaraeon Lefel 3 a Lefel 4 i gyd-fynd â’r cymhwyster hwn.
Mae'r cwrs yn gyfuniad o ddysgu wyneb-yn-wyneb (ar y campws) a dysgu o bell ar-lein. Mae'r darpariaeth wyneb-yn-wyneb yn ddydd Iau o 9:30am i 3pm.