BTEC BTEC Technolegau Digidol Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn anelu at gyfuno sgiliau technegol gyda sgiliau busnes, sgiliau rhyngbersonol a sgiliau rheoli prosiectau. Dyma sgiliau y mae ar bob sector sy’n defnyddio technoleg mewn amgylchedd byd-eang modern eu hangen, nid y sector cyfrifiadura yn unig.
Dyma'r cwrs i chi os...
... ydych eisiau cyfuno dysgu academaidd a hyfforddiant ymarferol
... ydych eisiau cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd
... ydych yn danbaid dros fyd dynamig technoleg ddigidol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn dysgu profiadau ymarferol trwy gymryd rhan mewn prosiectau a bennir gan gyflogwyr ac, wrth gwrs, cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd.
Mae Coleg Gyrfa’n cynnig y canlynol:
- Dysgu cyffrous, arloesol a gweithredol, yn ymwneud yn uniongyrchol â gwaith go iawn
- Dysgu o ansawdd da gan staff cymwys mewn meysydd academaidd craidd (yn cynnwys TGAU Saesneg, Mathemateg neu Sgiliau Hanfodol Llythrennedd/Rhifedd)
- Hyfforddiant uchel ei fri ac arbenigedd diwydiant
- Cyfleusterau ac adnoddau sy’n cyd-fynd â safonau’r diwydiant i gynorthwyo eich dysgu
- Dysgu wedi’i deilwra i weddu i’ch sgiliau a’ch diddordebau arbennig chi
- Cysylltiadau gwych â chyflogwyr lleol
- Llwybr clir ar gyfer y byd gwaith a’ch gyrfa yn y dyfodol
- Help i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol
- Addysg a chyngor o ansawdd uchel ar gyfer eich gyrfa
- Y disgwyliad y byddwch naill ai’n symud yn eich blaen at swydd, neu brentisiaeth neu addysg bellach/uwch ar ôl cwblhau eich cwrs
- Cyfleoedd i gyfarfod â phobl ifanc mewn Colegau Gyrfa o amgylch y wlad a chreu cysylltiadau gyda hwy
- Cymorth, cyngor a mentora arbenigol ar gyfer ehangu eich gorwelion a meithrin uchelgeisiau
Byddwch yn ennill cyfuniad o wybodaeth gyfrifiadurol a sgiliau ymarferol i fodloni gofynion technegol cyfnewidiol y diwydiant.
Byddwch yn astudio pynciau cyfrifiadura eang iawn, yn cynnwys:
- Egwyddorion cyfrifiadureg
- Elfennau sylfaenol systemau cyfrifiadurol
- Diogelwch ac amgryptiad systemau TG
- Cymwysiadau busnes y cyfryngau cymdeithasol
- Rheoli a chynnal systemau
- Dadansoddi a dylunio systemau
Cyflwynir y cwrs fesul uned a byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng aseiniadau, tasgau ac arholiadau ysgrifenedig. Dyma’r cymwysterau y byddwch yn eu hennill:
•Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifiadura
•Sgiliau Cyflogadwyedd Ehangach
•Cymhwyso Sgiliau Rhif Hanfodol a Chyfathrebu Lefel 3
Mae Modiwlau Lefel 3 BTEC Technolegau Digidol yn cynnwys:
Blwyddyn 1
- Egwyddorion Cyfrifiadureg (arholiad)
- Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol (arholiad)
- Systemau Diogelwch TG ac Amgryptio
- Cymwysiadau Busnes Cyfryngau Cymdeithasol
- Datblygu Gemau Cyfrifiadurol
- Datblygu Gwefan
Blwyddyn 2
- Cynllunio a Rheoli Prosiectau Cyfrifiadurol (arholiad)
- Prosiect Dylunio a Datblygu Meddalwedd
- Effaith Cyfrifiadura
- Graffeg Digidol ac Animeiddio
- Datblygu Cronfeydd Data Perthynol
- Rhwydweithio Cyfrifiadurol
- Dadansoddi a Dylunio Systemau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I ymuno â’r cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gradd Teilyngdod gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch.
Bydd angen ichi ymrwymo i’ch astudiaethau a symud yn eich blaen at brentisiaeth neu swydd yn y sector. Bydd angen ichi baratoi i astudio a gweithio mewn amgylchedd dysgu sy’n adlewyrchu gwaith yn hytrach na’r ystafell ddosbarth, yn cynnwys oriau estynedig, dillad busnes ac ymddwyn mewn modd pwrpasol.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gwaith mewn meysydd cysylltiedig, fel:
- Prentisiaethau uwch mewn Cyfrifiadura
- Peiriannydd rhwydwaith
- Rhaglennydd
- Dylunio a datblygu gwefannau
- Cynorthwyo systemau TGCh
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch yn cael y cyfle i gael profiad gwaith, cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar broblemau a'r cyfle i gymryd rhan yng nghynllun Erasmus.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFCE3140AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr