En

VTCT Tystysgrif VTCT mewn Tylino Swedeg Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
34 wythnos

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn rhoi ichi'r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol, ynghyd â chymhwyster proffesiynol a gydnabyddir gan y diwydiant mewn Tylino'r Corff ar ffurf Swedaidd a Therapi Cerrig, gan eich galluogi chi i ennill yswiriant i weithio gyda chleientiaid a gwella'ch rhagolygon cyflogaeth.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un sy'n dymuno gweithio yn y diwydiant harddwch, yn arbennig mewn amgylchedd sba sy'n cynnig ystod o therapïau.

Cynnwys y cwrs

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn astudio:

  • Iechyd a diogelwch
  • Anatomi a ffisioleg
  • Osgo a diffygion osgo cyffredin
  • Symudiadau Tylino ar ffurf Swedaidd a Therapi Cerrig a'u cymwysiadau
  • Gwrtharwyddion tylino, a gwrthweithredoedd a all gael eu profi ar ôl tylino
  • Ôl-ofal a chyngor am ofal yn y cartref

I ddechrau, bydd dosbarthiadau ymarferol yn eich caniatáu chi i ddatblygu'ch sgiliau tylino personol ar fyfyrwyr eraill; unwaith y byddwch wedi magu hyder, byddwch yn gweithio ar gleientiaid sy'n talu ar gyfer astudiaethau achos ac asesiadau. Byddwch yn ymgymryd â gwaith damcaniaethol ac astudiaeth adref sy'n hanfodol i beth gwaith anatomi, ffisioleg, prosiectau, ac yn cael eich asesu ar waith ymarferol ac mewn gwersi damcaniaethol.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, mae diddordeb yn y pwnc yn ddigon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi brynu gwisg clinig sy'n costio oddeutu £45.

Ble alla i astudio VTCT Tystysgrif VTCT mewn Tylino Swedeg Lefel 3?

CPCE2416AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr