En

EAL Tystysgrif NVQ mewn Ffabrigiad ac Weldio Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£80.00

Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
19 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Iau a Dydd Gwener
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Hyd

Hyd
30 wythnos

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i'ch helpu i ymgymryd ag amrywiaeth o dechnegau a gweithdrefnau weldio yn ddiogel, gan roi i chi dealltwriaeth drylwyr o'r prosesau weldio a'u defnydd, a'r offer, y deunyddiau a'r nwyddau traul a ddefnyddir, fel y gallwch weithio i fanylebau a safonau a gydnabyddir gan y diwydiant peirianneg.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Unrhyw un sy'n ystyried gyrfa mewn peirianneg neu weithgynhyrchu fel weldiwr.

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs yn ymdrin â'r prosesau weldio Metal Active/Inert Gas Shielding (MAGS/MIGS), Manual Metal Arc (MMA) a Tungsten Active/Inert Gas Shielding (TAGS/TIGS), a bydd angen i chi gwblhau ystod o uniadau wedi'u weldio mewn safleoedd weldio amrywiol i'r safon weldio BSEN 4872. Bydd yr uniadau wedi'u weldio hyn yna'n mynd drwy brofion dinistriol amrywiol cyn cael eu hasesu'n weledol gan yr asesydd.

Byddwch yn dysgu sut i adnabod diffygion weldio sylfaenol, sut i adfer ac atal unrhyw namau a all godi, ac addasu a phennu'r amodau ar gyfer weldio yn unol â manylebau perthnasol a gweithdrefnau weldio.

Bydd angen i chi hefyd baratoi ar gyfer weldio drwy gael gafael ar y cyfarwyddiadau angenrheidiol i'r swydd, deunyddiau, offer, cyfarpar ac unrhyw ddogfennaeth, a gwirio ac archwilio'r cyfarpar weldio i wneud yn siwr ei fod mewn cyflwr gweithio diogel ac yn addas ar gyfer ymgymryd â gwaith weldio.

Wedi i chi gwblhau'r cwrs hwn, gallech fynd ymlaen i NVQ Lefel 2 mewn Saernïo a Weldio neu Ddyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Weldio Uwch.

Gofynion Mynediad

Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at y rhai hynny sy'n 19 oed neu hyn, ac er nas oes yna ofynion mynediad dylech fod yn frwdfrydig am saernïo a weldio, a bydd angen i ni eich cyfweld er mwyn asesu eich galluoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi ddarparu eich Cyfarpar Diogelu Personol eich hun (esgidiau dur trwm ac oferôls o ddeunydd gwrthdan).

Ble alla i astudio EAL Tystysgrif NVQ mewn Ffabrigiad ac Weldio Lefel 1?

NCCE0230AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 19 Medi 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr