Prentisiaeth - Plymio a Gwresogi Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Prentisiaethau
Dysgu Agored/o Bell
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Sector
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae prentisiaeth mewn Plymio a Gwresogi yn gwrs 4 blynedd lle rydych chi'n cael eich cyflogi gan gwmni Plymio a Gwresogi neu gwmni adeiladu ac yn mynychu'r coleg 1 diwrnod yr wythnos.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Tra byddwch ar y safle gyda'ch cyflogwr byddwch yn meithrin sgiliau a phrofiad o weithio ar dasgau plymio a gwresogi. Ar y dechrau, byddwch yn gwneud tasgau lefel isel ac yn helpu plymwyr cymwys i wneud eu gwaith; ond dros amser, byddwch yn ennill profiad ac yn dysgu am systemau Gwres Canolog, systemau Poeth ac Oer a systemau Glanweithdra (setiau ystafell ymolchi a chawodydd).
Cynnwys y cwrs
Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg un diwrnod yr wythnos, ac mae'n cynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin â phynciau penodol, yn ogystal â sgiliau Llythrennedd a Rhifedd os oes angen.
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
Sesiynau ymarferol mewn gweithdai lle ceir cyfleusterau o’r radd flaenaf
Hyfforddiant mewn amgylchedd gwaith realistig
Gwersi theori mewn ystafelloedd dosbarth llawn cyfarpar
Ymweliadau gan Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith
Trafodaethau
Arddangosiadau
Sesiynau tiwtorial un i un a sesiynau tiwtorial grŵp
Gofynion Mynediad
Lleiafswm o 3 TGAU gradd A* i C mewn Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a chymhwyster seiliedig ar Wyddoniaeth neu Dechnoleg
a
I fodloni'r meini prawf mynediad ar gyfer y Brentisiaeth, dylai fod gennych gymhwyster ôl-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu neu'ch bod wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd.
a
Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gellir cwblhau'r brentisiaeth hon mewn 3 blynedd os oes gennych Graidd Lefel 2 mewn Peirianneg Adeiladu neu Wasanaethau Adeiladu sydd hefyd ar gael trwy ein cynnig llawn amser a rhan amser.
AWBL0615AA
Campws Dinas Casnewydd
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch apprenticeships@coleggwent.ac.uk.