En

Prentisiaeth - Ffabrïo a Weldio Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Prentisiaethau

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu Agored/o Bell
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Sector

Sector
Peirianneg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae prentisiaeth mewn Gwneuthuriad a Weldio yn gwrs 2 flynedd lle rydych chi'n cael eich cyflogi ac yn mynychu'r coleg 1 diwrnod/wythnos.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Mae'r Brentisiaeth Sylfaenol a'r Brentisiaeth mewn Ffabrigo a Weldio wedi'u cynllunio i ddarparu'r sgiliau, y wybodaeth a'r medrusrwydd sydd eu hangen i weithio ar lefel led-grefftus neu lefel gweithredwr (Lefel 2) neu ar lefel crefftwr neu dechnegydd (Lefel 3) fel y bo'n briodol.

Maent yn galluogi prentisiaid i feithrin gwybodaeth dechnegol a phrofiad ymarferol ynghyd â sgiliau hanfodol a phersonol sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu swyddi presennol a'u gyrfa yn y dyfodol.

Cynlluniwyd y fframwaith i fynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau a gweithlu sy'n heneiddio drwy ddenu pobl ifanc i'r diwydiant peirianneg a rhoi iddynt y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad y mae ar gyflogwyr eu hangen.

Cynnwys y cwrs

Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Cwblhau portffolio o dystiolaeth
Arsylwadau yn y gweithle
Tasgau a phrofion theori

Gofynion Mynediad

4 TGAU Gradd D neu uwch, gan gynnwys Mathemateg, Saesneg (neu Gymraeg fel iaith gyntaf) a Gwyddoniaeth; neu Ddiploma lefel 1 addas a TGAU Gradd D neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg fel iaith gyntaf)

Gwybodaeth Ychwanegol

Cwblheir Diploma NVQ Lefel 2 mewn Peirianneg Ffabrigo a Weldio yn y gweithle. Cwblheir y Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peirianneg yn rhan-amser yn y Coleg.

Ble alla i astudio Prentisiaeth - Ffabrïo a Weldio Lefel 2?

AWBL0403AA
Campws Dinas Casnewydd

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch apprenticeships@coleggwent.ac.uk.