En

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Er mwyn ymuno â’r cwrs, bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd C neu uwch arnoch, gan gynnwys Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Bydd angen i chi hefyd fod â diddordeb mewn dysgu am y gwahanol feysydd galwedigaethol.

Yn gryno

Mae ein cyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol wedi eu cynllunio i’ch cyflwyno i’r maes astudio sydd o ddiddordeb i chi ac i’ch helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych chi’n ansicr beth y dymunwch wneud
... Ydych chi’n dymuno rhoi cynnig ar fwy nac un maes galwedigaethol
... Ydych chi’n dymuno datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cwrs hwn y darparu ystod o gyfleoedd symud ymlaen i chi, gan gynnwys dysgu ychwanegol yn y coleg ar un o’n cyrsiau lefel nesaf, prentisiaeth neu gyflogaeth!

Byddwch yn cael y cyfle i roi cynnig ar fwy nac un maes galwedigaethol a magu dealltwriaeth o fywyd coleg. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy a chwblhau tasgau sy’n canolbwyntio ar ddangos beth y gallwch wneud a beth rydych chi wedi ei ddysgu.

Yr un yw’r unedau craidd ar draws ein holl gyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol, fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau o fewn eich dewis faes galwedigaethol. Os oes angen i chi newid i gwrs gwahanol, gallwch drosglwyddo’r unedau a astudiwyd ar y cwrs hwn i’ch un nesaf, os oes angen.

Mae’r unedau craidd y byddwch yn dilyn yn cynnwys:

  • Bod yn drefnus
  • Datblygu cynllun cynnydd
  • Gweithio gydag eraill
  • Ymchwilio i bwnc

Gall yr unedau amaethyddol ac anifeiliaid gynnwys:

  • Dysgu am y sector amaethyddol
  • Gofalu am a bwydo anifeiliaid
  • Symud a lletya anifeiliaid
  • Tyfu planhigion
  • Gofalu am a chadw planhigion yn iach
  • Defnyddio teclynnau gweithdy mewn lleoliad amaethyddol
  • Defnyddio peirianwaith amaethyddol
  • Paratoi pridd ar gyfer plannu

Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol a byddwch yn ennill:

  • BTEC Lefel 1 Diploma mewn Astudiaethau Galwedigaethol
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg (os nad ydych chi wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd angen bod yn frwdfrydig, diwyd a bodlon rhoi cynnig ar bethau newydd yn y meysydd galwedigaethol. Bydd disgwyl i chi ymarfer sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau gwaith realistig o fewn y coleg, gan eich galluogi i adeiladu ar eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer yr holl sesiynau yn ofyniad gorfodol i’r cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Gallech barhau eich astudiaethau ar Lefel 2 mewn maes galwedigaethol o’ch dewis
  • Gallech symud ymlaen at brentisiaeth
  • Gallech gael swydd yn eich dewis faes

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi fod wedi cael chwistrelliad tetanws diweddar cyn dechrau gweithio gyda’r anifeiliaid.

Am resymau Iechyd a Diogelwch, bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelwch Personol (PPE) cyn gweithio gyda’r anifeiliaid; wellingtons bodiau dur, oferôlau glas tywyll a bag i gario eich PPE, a chost y cyfarpar yw tua £40.

Ceffylau: Het farchogaeth (safonau presennol Cymdeithas Ceffylau Prydain), esgidiau buarth, jodhpurs, esgidiau marchogaeth, menig (os ydych yn marchogaeth). Mae'r costau hyn yn amrywio.

Dylid prynu'r eitemau hyn cyn dechrau eich cwrs ond byddwch yn gallu trafod y gofynion wrth gofrestru.

Efallai y bydd costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio ?

UFBD0047AA
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr