En

BTEC Tystysgrif mewn Peirianneg Chwaraeon Modur Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys gradd B mewn Mathemateg ac, yn ddelfrydol, gradd B mewn Gwyddoniaeth.

Yn gryno

Bwriad y cwrs hwn yw darparu’r wybodaeth sylfaenol a’r sgiliau penodol y mae eu hangen i fodloni gofynion diwydiannau peirianneg chwaraeon moduro/mecanyddol modern.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych eisiau gyrfa mewn peirianneg
... Ydych yn danbaid dros chwaraeon moduro
... Ydych yn weithgar ac yn dda am ddatrys problemau

Beth fyddaf yn ei wneud?

Dyma un o’r diwydiannau mwyaf cyffrous a mwyaf ei dwf yn y DU, gyda mwy a mwy o gysylltiadau rhwng y byd chwaraeon moduro a sectorau peirianneg perfformiad uchel eraill, fel y sectorau modurol, amddiffyn, morol ac awyrofodol. Gyda’r buddsoddiad o £120 miliwn ym Mharc Technoleg Fodurol Glynebwy a Chylchffordd Cymru, ni fu erioed well adeg i astudio cwrs mewn peirianneg chwaraeon moduro.

Ochr yn ochr ag astudiaethau damcaniaethol, ceir nifer o weithgareddau allgyrsiol y gellir cymryd rhan ynddynt. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, cewch gyfle i adeiladu Caterham o ddim. Yn ystod eich ail flwyddyn, cewch gyfle i fod yn rhan o Rasio Coleg Gwent, lle y byddwch yn cystadlu yn y Cwpan Radical SR1. Ar ôl ichi gwblhau’r cwrs, mae gennym nifer o lwybrau y gallwch eu dilyn i’r byd gwaith, boed yn llwybr prentisiaeth neu’n llwybr gradd prifysgol.

Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio:

Blwyddyn 1

Diploma Atodol mewn Peirianneg (60 credyd)

  • Gweithrediad Systemau Siasis Cerbydau
  • Arferion Gweithdai Chwaraeon Moduro
  • Paratoi ac Archwilio Cerbydau Chwaraeon Moduro
  • Egwyddorion, Gweithrediad, Gwasanaethu a Thrwsio Injans Cerbydau
  • Ymarfer Proffesiynol a Logisteg ar gyfer Chwaraeon Moduro
  • Mathemateg ar gyfer Technegwyr Peirianneg

Ynghyd â 30 credyd ychwanegol

  • Dylunio Peirianegol
  • Defnyddio Mathemateg a Gwyddoniaeth Cerbydau
  • Arlunio Peirianegol ar gyfer Technegwyr

Blwyddyn 2

  • Prosiect Cerbyd
  • Diagnosio a Chywiro Diffygion mewn Systemau Cerbydau
  • Prosesau a Thechnoleg Saernïo
  • Systemau Brecio a Llywio/Crogiant Cerbydau Ysgafn
  • Egwyddorion Trydanol ac Electronig ar gyfer Technoleg Cerbydau
  • Nodweddion Deunyddiau Peirianegol a’u Defnydd
  • Swyddogaeth a Gweithrediad Systemau Chwistrelliad Petrol
  • Technoleg Weldio

Er mwyn datblygu eich sgiliau ymarferol, bydd modd ichi ddefnyddio gweithdy o’r radd flaenaf a chymryd rhan mewn llu o ddigwyddiadau chwaraeon moduro drwy’r DU. Hefyd, cewch gymwysterau ychwanegol mewn Peirianneg Gyfansawdd trwy ddefnyddio ein cyfleusterau hyfforddiant cyfansawdd, sydd ar flaen y gad o fewn y sector.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, byddwch angen fan leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg Gradd B ac os oes modd Gwyddoniaeth Gradd B.

Bydd gennych ddiddordeb ysol mewn peirianneg, yn ogystal â brwdfrydedd a chymhelliant i ddatblygu eich sgiliau ymarferol a dadansoddol. Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs, ac mae parchu eraill, brwdfrydedd ynglyn â’r pwnc a hunangymhelliant hefyd yn ofynnol. Mae meddu ar frwdfrydedd a’r agwedd iawn yn hollbwysig i ddarpar gyflogwyr.

Disgwylir ichi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun. Hefyd, disgwylir ichi fynychu cynifer o rasys â phosibl a rhwydweithio gyda chymaint ag y bo modd o bobl.

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng gwaith cwrs, portffolio ac asesiad ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Diploma Atodol Lefel 3 mewn Technoleg Cerbydau (Chwaraeon Moduro) ynghyd â 30 credyd ychwanegol (Blwyddyn 1)
  • Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Technoleg Cerbydau (Chwaraeon Moduro) (Blwyddyn 2)
  • Bagloriaeth Cymru
  • Mathemateg a Saesneg (byddwch yn mynychu dosbarthiadau os cawsoch radd is na Gradd C yn y pynciau hyn ar lefel TGAU)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Cymhwyster ar lefel prifysgol mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro neu bwnc arall yn ymwneud â pheirianneg
  • Prentisiaeth Uwch
  • Gwaith

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol a fydd yn costio oddeutu £40.00.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Tystysgrif mewn Peirianneg Chwaraeon Modur Lefel 3?

NFBE0032AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr