En

CBAC Tystysgrif mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Egwyddorion a Chyd-destun Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg. Yn ogystal, dylai myfyrwyr feddu ar o leiaf gradd D mewn Bioleg neu Wyddoniaeth; neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg

Yn gryno

Mae’r cwrs yma yn gyfuniad o ddysgu yn y dosbarth a phrofiad gwaith yn y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol.

Dyma'r cwrs i chi os...

...woffech gael gyrfa mewn iechyd a gofal cymdeithasol
...woffech symud ymlaen i gwrs uwch
...woffech wella eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn y maes

Beth fyddaf yn ei wneud?

Pynciau cysylltiedig ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol: -

Uned 2: Ffactorau sy'n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion drwy gydol eu bywyd a sut mae hyn yn effeithio ar ganlyniadau, gofal ac anghenion cymorth

Asesir yr uned hon drwy arholiad. Byddwch yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth am y ffactorau sy'n effeithio ar dwf a datblygiad 'unigolion' yn ystod eu bywydau, a'r effeithiau all hyn ei gael ar ganlyniadau eu llesiant personol a'u hanghenion gofal a chefnogi.

Uned 4: Deall sut mae cyflyrau cyffredin yn effeithio ar y corff dynol

Yn yr uned hon, a asesir trwy asesiad nad yw'n arholiad (NEA), byddwch yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o gyflyrau, mathau ac achosion cyffredin, ac yn archwilio sut y gallant effeithio ar y corff dynol, yn ogystal ag archwilio'r gofal a'r gefnogaeth sydd ar gael i unigolion sy'n byw gyda chyflyrau ffisiolegol a'r heriau y gallent eu hwynebu.

Uned 5: Cefnogi unigolion sydd mewn peryg, iddynt fedru cyflawni eu canlyniadau dymunol

Mae'r uned hon yn cael ei hasesu drwy arholiad, a byddwch yn meithrin y wybodaeth a'r ddealltwriaeth o ffactorau a allai gyfrannu at unigolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso, gofynion deddfwriaeth, rheoleiddio a chodau ymddygiad ac ymarfer ar gyfer diogelu ac amddiffyn unigolion sydd mewn perygl o ran iechyd a gofal cymdeithasol ac ymagweddau at sicrhau hawliau unigolion.

Uned 6: Gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol

Asesir yr uned hon drwy asesiad nad yw'n arholiad (NEA). Byddwch yn cyfoethogi eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o weithio mewn sector iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddysgu yn y dosbarth a thrwy ymgysylltu'n orfodol gyda'r sector (lleiafswm o 100 awr, ac mae'n rhaid cwblhau 60 awr mewn lleoliad gwaith). Bydd angen i chi gadw dyddiadur myfyriol o'ch profiadau.

Cyflwynir y cwrs hwn drwy waith grwp/trafodaethau dosbarth, dysgu yn y dosbarth a phrofiad gwaith, sy'n rhan orfodol o'r cwrs.

Byddwch yn cael eich asesu drwy arholiad ac asesiadau nad yw'n arholiadau NEA, a byddwch yn cyflawni:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3:
  • Cymwysterau ategol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau Uwch Fagloriaeth Cymru

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael lle ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Celf, Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg. Yn ogystal, dylai myfyrwyr feddu ar o leiaf gradd D mewn Bioleg neu Wyddoniaeth neu Radd Teilyngdod mewn cymhwyster Lefel 2 priodol gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg/Saesneg.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, y gallu i gymell eich hun a brwdfrydedd tuag at y diwydiant gofal. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cwblhau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 yn llwyddiannus: Bydd Egwyddorion a Chyd-destun yn eich galluogi chi i fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau rhaglen lawn y cwrs. Wedyn gallwch fynd ymlaen i Addysg Uwch neu gyflogaeth yn y sectorau galwedigaethol statudol, gwirfoddol a phreifat mewn gwaith gofal, gwaith cymunedol, gwasanaeth cyhoeddus, llesiant addysg neu waith cymorth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd yn rhaid i chi gael gwiriad DBS boddhaol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Tystysgrif mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Egwyddorion a Chyd-destun Lefel 3?

NFBE0026AB
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr