En

BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Lleiafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch neu gymhwyster Diploma Lefel 2 a TGAU Mathemateg gradd B.

Yn gryno

Mae’r cymhwyster dwy flynedd hwn, sy’n gyfwerth â thri chymhwyster Safon Uwch, wedi’i ddylunio i’ch galluogi i ddatblygu’r uwch sgiliau sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i'r brifysgol neu gyflogaeth ar lefel dechnegol neu broffesiynol o fewn y diwydiant peirianneg.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych gymwysterau neu brofiad blaenorol yn y sector hwn
... Ydych eisiau datblygu gwybodaeth fanwl
... Ydych yn dda am ddatrys problemau ac yn weithgar

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn astudio unedau fel:

  • Iechyd a diogelwch yn y gweithle peirianneg
  • Cyfathrebu ar gyfer technegwyr peirianneg
  • Mathemateg ar gyfer technegwyr peirianneg
  • Systemau a dyfeisiadau electroniwmatig/hydrolig
  • Arlunio peirianegol ar gyfer technegwyr
  • Egwyddorion mecanyddol a’u defnydd
  • Nodweddion deunyddiau peirianegol a’u defnydd
  • Drafftio gyda chymorth cyfrifiaduron mewn peirianneg
  • Prosesau ffurfio cynradd peirianegol
  • Technegau eilaidd a gorffen peirianegol
  • Rheoli prosesau a pheiriannau diwydiannol
  • Technegau archwilio a mesur mecanyddol

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng aseiniadau, adroddiadau, profion byr, gwaith ymarferol a gwaith portffolio. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

• Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol 
Gweithgareddau Sgiliau
Mathemateg a Saesneg
• Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, byddwch angen:

  • o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg gradd B, Cymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf gradd C a Gwyddoniaeth gradd C

neu

  • gymhwyster perthnasol Diploma Lefel 2 a TGAU Mathemateg gradd B a Chymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch.

Beth sy'n digwydd nesaf?

HNC Peirianneg yn Coleg Gwent neu astudiaeth addysg uwch arall mewn prifysgol, prentisiaeth neu gyflogaeth yn y sector peirianneg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r holl gostau’n cael eu hadolygu a gallant newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 3?

CFBE0014AC
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr