En

BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Peirianneg (Trydanol) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys gradd B mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg NEU radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol a TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Yn gryno

Os ydych chi'n ansicr ar hyn o bryd a hoffech chi gael prentisiaeth nawr, neu fynd ymlaen i astudio lefel Prifysgol, neu o bosibl ennill prentisiaeth yn ddiweddarach ar ôl ennill rhai sgiliau ychwanegol, dyma'r cwrs i chi.

Byddwch yn dysgu sgiliau peirianneg drydanol ac electronig trwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a fydd yn seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn gadael yr ysgol gyda graddau TGAU da
... Ydych eisiau dilyn llwybr gwahanol i’r llwybr Safon Uwch traddodiadol
... Ydych yn dymuno mynd i’r brifysgol neu ddilyn prentisiaeth

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn astudio unedau a fydd yn cynnwys:

  • Uned 1 Mathemateg
  • Uned 2 Cyfathrebu/Iechyd a Diogelwch/CAD
  • Uned 3 Dylunio Cynnyrch Peirianneg
  • Uned 4 Ansawdd Masnachol Cymhwysol
  • Uned 15 Peiriannau Trydanol
  • Uned 19 Dyfeisiau a Chylchedau Electronig
  • Uned 22 Gweithgynhyrchu Bwrdd Cylchedau Argraffedig Electronig

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng aseiniadau, adroddiadau, profion byr, gwaith ymarferol a gwaith portffolio. Bydd pob aseiniad yn cynnwys gwahanol dasgau a gaiff eu graddio fel Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol neu Electronig (180 credyd)
  • Gweithgareddau Sgiliau (i’ch helpu i symud yn eich blaen at waith)
  • Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C mewn Mathemateg a Saesneg TGAU)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, byddwch angen fan leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg Gradd B a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar o leiaf Gradd Teilyngdod a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.

Bydd gennych ddealltwriaeth dda o Fathemateg a Gwyddoniaeth a byddwch yn mwynhau datrys problemau cymhleth yn ymwneud â dylunio cylchedau, adeiladu a diagnosio diffygion.

Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Bydd angen ichi allu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, a disgwylir ichi gadw at god ymddygiad y coleg.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gallwch astudio Peirianneg Drydanol/Electronig ar lefel prifysgol neu gwblhau prentisiaeth yn y sector hwn. Fel arall, gallwch ystyried swyddi sy’n arbenigo yn y math hwn o beirianneg.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Peirianneg (Trydanol) Lefel 3?

CFBE0013AC
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr