En

BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Busnes Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Byddwch yn astudio ystod eang o feysydd busnes i’ch paratoi am yrfa neu i astudio busnes ymhellach.

 

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ysbryd entrepreneuraidd a natur ragweithiol.
... Ydych eisiau gwella eich cyfleoedd am gyflogaeth yn y sector cyhoeddus ynghyd ag arbenigedd busnes.
... Oes gennych ddiddordeb mawr yn y byd busnes.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn cwblhau prosiectau ac aseiniadau yn seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a galwadau realistig y gweithle. Byddwch yn canolbwyntio ar bwnc penodol ac yn datblygu ystod o sgiliau a gwybodaeth arbenigol a fydd yn cynnwys unedau craidd ac arbenigol. Y pynciau a fydd yn cael eu cynnwys fydd:

  • Marchnata
  • Adnoddau Dynol
  • Cyfrifeg
  • Y Gyfraith
  • Adeiladu Tîm
  • Hysbysebu cynnyrch creadigol
  • Effaith TG ar fusnes
  • Cymhwyster Busnes Lefel 3
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Cymwysterau perthnasol eraill i fwyhau eich set o sgiliau

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi sicrhau:

  • Cymhwyster Busnes Lefel 3
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Cymwysterau perthnasol eraill i fwyhau eich set o sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael mynediad, bydd angen i chi gael o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch arnoch gan gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd a Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster diploma Lefel 2 priodol ar radd teilyngdod gyda TGAU i gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd, Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch.

Bydd angen i chi ymrwymo’n llawn i fod yn bresennol, parchu eraill, dangos brwdfrydedd am y pwnc a chael hunan-gymhelliant. Cewch eich asesu’n barhaus drwy aseiniadau ymarferol, asesiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau a gwaith portffolio ac mae yna ddisgwyliadau i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd cwblhau Blwyddyn 1 Diploma 90 Credyd yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i’r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma estynedig llawn. Wedi hynny, gallwch fynd ymlaen i:

  • Addysg Uwch mewn pynciau busnes perthnasol fel HNC Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Gwent
  • Cyflogaeth yn y sector cyhoeddus ynghyd ag arbenigedd busnes fel cyllid, adnoddau dynol, rheoli, marchnata neu yrfa arall yn y maes busnes.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd disgwyl i chi wneud cyfraniad wedi ei gymorthdalu tuag at dripiau a gweithgareddau busnes.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Busnes Lefel 3?

EFBE0011AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr