BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Cerddoriaeth Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Mae’r cwrs yma yn cwmpasu amrywiaeth eang o berfformio, cyfansoddi, recordio a hanes cerddoriaeth.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych gariad at gerddoriaeth
... Oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa gerddorol neu swydd yn y celfyddydau perfformiadol
... Ydych yn frwd dros fod yn greadigol!
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd gennych fynediad i theatr o’r radd flaenaf gyda chyfleusterau sain a goleuo a ddefnyddir yn ystod eich gweithdai a’ch nosweithiau cerddorol. Byddwch yn defnyddio ein cyfresi Mac gan redeg Logic X ar gyfer dilyniant a’n stiwdio recordio bwrpasol ar gyfer y recordio demo hollbwysig.
Byddwch yn ymarfer, trefnu a pherfformio mewn 3 digwyddiad cerddorol o bwys gydol y flwyddyn. Bydd eich sgiliau fel cerddor ac fel aelod o dîm yn cael eu datblygu a’u herio.
Mae astudio yn cynnwys:
- Technegau perfformio cerddoriaeth
- Sesiynau ac Arddulliau Cerddorol
- Y diwydiant cerdd
- Trefnu a chyfansoddi
- Cyfrifiaduron a cherddoriaeth
- Technegau recordio sain
- Hanes cerddoriaeth boblogaidd
- Sain ar gyfer delweddau symudol
Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus, trwy aseiniadau ymarferol yn bennaf, gyda gwaith ysgrifenedig yn ategu’r sgiliau a ddatblygir gan fyfyrwyr cerdd a byddwch yn cyflawni:
- Lefel 3 mewn Cerddoriaeth
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i hybu eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn cofrestru, bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 gyda Theilyngdod a TGAU Gradd C neu uwch mewn Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.
Mae’n rhaid i chi allu chwarae offeryn a chynghorir lleiswyr i allu chwarae, neu fynd ati i ddysgu chwarae, offeryn
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd cwblhau cwrs y flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r diploma estynedig llawn.
Oddi yno, mae llwybrau dilyniant yn cynnwys mynediad i H.E. neu'r cymhwyster BA Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon 3 blynedd newydd (Ar gael ar Gampws Crosskeys) neu Gyrsiau HND mewn Celfyddydau Perfformio, Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth, neu Gyflogaeth fel Perfformiwr/Technegydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel rhan o’r gofynion mynediad bydd disgwyl i chi fynychu sesiwn brofi lle byddwch yn cymryd rhan mewn clyweliad.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBE0006AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr