OCR Diploma Technegol Caergrawnt mewn Celf a Dylunio Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
20 Medi 2023
*Ymrestru ar agor o hyd
Hyd
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys pwnc Celf neu greadigol a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd.
Yn gryno
Byddwch yn astudio ystod o unedau, megis gwneud printiau, cerameg, cyfrifiaduron, delweddu digidol, ffotograffiaeth, astudiaethau gweledol, ffasiwn a thecstilau, astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol, lluniadu, peintio, dylunio 3D, graffeg a sgiliau allweddol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych eisiau adeiladu sgiliau a hyder mewn ystod o ddisgyblaethau
... Ydych eisiau gyrfa ym maes celf a dylunio
... Oes gennych ychydig o brofiad ym maes celf ond hoffech ei archwilio fwy
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn adeiladu sgiliau a hyder ar draws ystod o ddisgyblaethau gyda'r bwriad o ddilyn gyrfa ym maes celf a dylunio yn ddiweddarach. Os oes gennych eisoes ychydig o brofiad ym maes celf, ond nid ydych wedi cael y cyfle i archwilio eich ochr greadigol yn llawn, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i wneud union hynny. Mae'n rhoi blas gwirioneddol i chi o sawl agwedd o gelf a dylunio ac yn cynnwys prosiectau cyffrous a heriol.
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau mewn cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth gan ddefnyddio rhifau, cynllunio a gwaith tîm.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs a bydd eich gwaith yn cael ei gymedroli yn allanol. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill:
- Lefel 2 mewn Celf a Dylunio
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru, mae angen i chi fod ag o leiaf 4 TGAU, Gradd D neu uwch, gan gynnwys pwnc Celf neu greadigol ac unai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys un ai TGAU Mathemateg/Rhifedd.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc, gallu i gymell eich hun, gallu creadigol a dyhead i lwyddo.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ystod o Ddiplomau Estynedig Lefel 3, megis ffasiwn a dillad, celf gain, y cyfryngau rhyngweithiol, ffotograffiaeth neu ddylunio graffeg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch angen prynu llyfrau braslunio, deunyddiau peintio a lluniadu. Gall ffioedd ar gyfer ymweliadau ag orielau a digwyddiadau fod yn daladwy drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFBD0063AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 20 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr