En

VTCT Dyfarniad mewn Estyniadau Amrannau Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
25 Chwefror 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
14:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
19:30

Hyd

Hyd
14 wythnos

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, rhaid i chi fod yn 19 oed neu hyn, a gyda diddordeb yn y diwydiant harddwch neu'n gweithio ynddo’n barod.

Yn gryno

Os ydych yn awyddus dilyn gyrfa yn y diwydiant harddwch, yna bydd y cwrs hwn yn eich addysgu chi sut i roi amrannau parhaol unigol, yn ogystal â rhoi gwybodaeth gadarn i chi o iechyd a diogelwch mewn amgylchedd salon a hyrwyddo gofal cleientiaid a chyfathrebu gyda chleientiaid.

Dyma'r cwrs i chi os...

...unrhyw un sydd eisiau gwella eu sgiliau presennol a chynnig triniaethau diweddaraf y diwydiant.

...rheiny sydd eisiau dysgu proffesiwn newydd a gweithio yn y diwydiant harddwch.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs VTCT Dyfarniad Lefel 3 mewn Estyniadau Amrannau wedi'i ddylunio'n benodol i ddatblygu'ch sgiliau mewn therapi harddwch i lefel uwch, fel y gallwch gynnig eich gwasanaethau salon eich hun. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gymeradwyo a'i gefnogi gan Awdurdod y Diwydiant Trin Gwallt a Harddwch (HABIA), y corff gosod safonau ar gyfer cymwysterau trin gwallt, harddwch, ewinedd a sba.

Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, gweithgar, cyfeillgar ac yn meddu ar lefel uchel o gyflwyniad personol, a bod yn ymroddedig i bresenoldeb llawn a phrydlondeb yn yr holl sesiynau. Bydd disgwyl i chi weithio ar gleientiaid go iawn mewn amgylchedd masnachol a bod yn gyfrifol am ddatblygu'ch 'sylfaen o gleientiaid' eich hun.

Cewch eich asesu gan gyfuniad o waith arsylwi, datganiadau tystion, cyfryngau clyweledol, cwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar, aseiniadau ac astudiaethau achos.

Ar ôl y cwrs hwn, gallech symud ymlaen i gymwysterau VTCT eraill, neu weithio yn y diwydiant yn gwneud triniaethau estyniad amrannau. Gallech gofrestru i wneud cyrsiau harddwch eraill neu gael gwaith fel technegydd amrannau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod gwisg ein salon yw:

  • Tiwnig gyda throwsus ac esgidiau duon
  • Gwallt wedi'i glymu'n ôl yn daclus oddi wrth yr wyneb
  • Ni ddylid gwisgo estyniadau gwallt a lliw ewinedd
  • Dim tlysau - caniateir gwisgo modrwy briodas yn unig

Bydd disgwyl i chi wisgo gwisg y diwydiant harddwch neu ddillad addas a phrynu pecyn arlliwio fel amod o'ch lle ar y cwrs, sydd tua £80 i £100.

Ble alla i astudio VTCT Dyfarniad mewn Estyniadau Amrannau Lefel 3?

EPAW0503AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 25 Chwefror 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr