CBAC Bioleg UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Lefelau A
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys gradd B mewn Bioleg neu radd B mewn Gwyddoniaeth a Gwyddoniaeth Ychwanegol, a gradd B mewn Mathemateg/Rhifedd ac Iaith Saesneg.
Yn gryno
Mae hwn yn gipolwg trylwyr a llawn gwybodaeth ar gyrsiau Bioleg. Mae cwrs CBAC Safon Uwch mewn Bioleg yn darparu ystod eang o wybodaeth sy’n cynnwys agweddau amrywiol ar ystod o themâu. Mae’r rhain yn cynnwys Anatomeg, Ffisioleg, Ecoleg, Microbioleg, Microsgopeg, Geneteg a Biocemeg.
Dyma'r cwrs i chi os...
...os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn llwybr Meddygol neu Wyddonol
...os hoffech chi ddilyn gyrfa ym maes Gofal Iechyd, Peirianneg, Fferylliaeth, Addysg, Gwyddorau Ffisegol fel rhai enghreifftiau
...os oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn gwyddoniaeth
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r fanyleb wedi’i rhannu yn gyfanswm o 5 uned: 2 uned Safon Uwch Gyfrannol a 3 uned Safon Uwch.
Mae’r cwrs Safon UG Bioleg yn cynnwys:
· Bioleg 1: Biocemeg sylfaenol a threfniant celloedd
· Bioleg 2: Bioamrywiaeth a ffisioleg systemau’r corff
Mae’r cwrs Safon Uwch Bioleg yn cynnwys:
· Bioleg 3: Egni, homeostasis a’r amgylchedd
· Bioleg 4: Amrywiad, etifeddiaeth ac opsiynau
· Bioleg 5: Arholiad ymarferol
Caiff pob un o’r 5 uned ei hasesu gan fwrdd arholi CBAC. Mae Uned 5 yn cynnwys dau Arholiad Ymarferol i’w cwblhau yn y coleg dan amodau arholiad. Ar ôl eu cwblhau, byddwch chi’n ennill: Safon UG Bioleg a Safon Uwch Bioleg ynghyd â llawer o sgiliau trosglwyddadwy pwysig.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I ymrestru, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Gradd B mewn Bioleg neu Radd B mewn Gwyddoniaeth a Gwyddoniaeth Ychwanegol, a Gradd B mewn Mathemateg/Rhifedd Mathemateg ac Iaith Saesneg.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Cyrsiau addysg uwch y gall Bioleg fod yn rhan o'r cymhwyster mynediad, yn cynnwys Meddygaeth, Fferylliaeth, Ffisiotherapi, Biocemeg, Iechyd Amgylcheddol, Geneteg, Nyrsio, Optometreg, Cadwraeth, Ecoleg, Gwyddor Filfeddygol a Biodechnoleg.
EFAS0105A1
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr