En

CBAC Ffrangeg UG Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd a Gradd B mewn Ffrangeg.

Yn gryno

Os ydych yn frwd dros ieithoedd, mae Ffrangeg Safon Uwch yn opsiwn gwych i chi. Byddwch yn datblygu eich sgiliau iaith llafar ac ysgrifenedig, ac yn gwella eich sgiliau gwrando a darllen yn yr iaith Ffrangeg. Byddwch hefyd yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o'r gwledydd a chymunedau lle siaredir Ffrangeg.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn chwilfrydig am ddiwylliant Ffrengig
... Mae gennych ddiddordeb mewn ieithoedd
... Rydych am ehangu eich sgiliau ysgrifenedig ac ar lafar mewn Ffrangeg
... Rydych yn gallu cymell eich hun ac yn gweithio'n galed.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn ystod eich Safon Uwch Ffrangeg, byddwch yn astudio deunyddiau dilys, gan gynnwys ffilmiau a llyfrau i helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth a'ch gwybodaeth am yr iaith. Bydd agwedd lafar yr iaith yn gwella drwy sesiynau sgwrsio wythnosol gyda chymhorthydd Ffrengig.

Lefel UG - bydd yr holl waith iaith ar gyfer UG yn seiliedig ar y themâu canlynol:

  • Thema 1 - Bod yn unigolyn ifanc mewn cymdeithas Ffrengig
  • Thema 2 - Deall y byd Ffrengig
  • Byddwch hefyd yn astudio un ffilm ar Lefel UG.

Lefel U - byddwch yn archwilio'r themâu canlynol:

  • Thema 3 - Amrywiaeth a gwahaniaeth
  • Thema 4 - Ffrainc 1940-1950: Y Feddiannaeth a'r blynyddoedd wedi'r Rhyfel
  • Byddwch hefyd yn astudio un testun llenyddol ar Lefel U.

Cewch eich asesu drwy arholiadau llafar, ysgrifenedig, cyfieithu, darllen a gwrando. Unwaith y byddwch wedi'i gwblhau, byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, a Gradd B mewn Ffrangeg.

Bydd angen i chi gael diddordeb brwd yn yr iaith Ffrangeg a gwledydd sy'n siarad Ffrangeg. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Croesewir a gwerthfawrogir cymhwyster lefel uwch mewn Ffrangeg yn y gweithle yn ogystal â mewn ystod eang o gyrsiau Addysg Uwch. Ar lefel gradd, gellir astudio Ffrangeg yn benodol neu ei astudio ar y cyd ag unrhyw bwnc/disgyblaeth. Drwy astudio Ffrangeg yn y brifysgol, cewch gyfle i dreulio rhan o'r cwrs yn byw a gweithio mewn gwlad sy'n siarad Ffrangeg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol.

Mae Coleg Gwent wedi ymrwymo i gynnig cwricwlwm amrywiol a chyfoethog i'w ddysgwyr Lefel A ac AS ac mae'n awyddus i sicrhau bod dysgwyr ar draws Gwent yn gallu cyrchu pynciau sy'n hanesyddol yn recriwtio niferoedd bach. Er mwyn sicrhau argaeledd, cynigir Sbaeneg a Ffrangeg ar ein Campws Crosskeys a chynigir Cymraeg ar ein campysau Parth Dysgu Crosskeys a Blaenau Gwent. Bydd Cerddoriaeth a Mathemateg Bellach yn cael eu cynnig ar bob un o'n campysau. Os yw eich dewis o bynciau yn golygu bod angen teithio rhwng campysau, cysylltwch â'n hadran dderbyn i gael mwy o wybodaeth.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Ffrangeg UG Lefel 3?

CFAS0121A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr