Yn gryno
Mae’r cwrs yn cynnig cyfle i ddysgu am greu cymwysiadau meddalwedd a datblygu sgiliau i ddatrys problemau ynghyd â dealltwriaeth o egwyddorion a chysyniadau sylfaenol Cyfrifiadureg.
...ydych am gyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
...rydych chi’n mwynhau gweithio â phobl eraill
...rydych chi’n dwlu ar fod yn greadigol
...rydych chi’n meddwl yn ddadansoddol ac rydych chi’n mwynhau datrys problemau
Byddwch yn ymdrin â dealltwriaeth o systemau cyfrifiadur, yn cynnwys meddalwedd, caledwedd a chyfathrebiadau data, prif egwyddorion dadansoddi systemau, rhesymeg, algorithmau a chynrychioli data.
Lefel UG:
- Uned 1 - Hanfodion Cyfrifiadureg
 - Uned 2 - Rhaglennu Ymarferol i Ddatrys Problemau
 
Safon Uwch:
- Uned 3 - Rhaglennu a Datblygu Systemau
 - Uned 4 - Pensaernïaeth Cyfrifiadur, Data, Cyfathrebu a Chymwysiadau
 - Uned 5 - Datrysiad wedi'i Raglennu i Broblem
 
Asesir drwy dasgau gwaith cwrs ymarferol ac arholiad yn y flwyddyn UG ac U. Byddwch yn ennill cymwysterau mewn:
- Cyfrifiadureg Lefel UG
 - Cyfrifiadureg Safon Uwch
 - Gweithgareddau Sgiliau
 - Saesneg a Mathemateg
 
I gofrestru, bydd angen o leiaf 5 cymhwyster TGAU, gradd C neu uwch, gan gynnwys gradd B mewn Mathemateg/Mathemateg Rifedd neu radd A ar gyfer TGAU mewn Cyfrifiadureg.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
- Gradd mewn Cyfrifiadureg, neu bwnc cysylltiedig, megis Mathemateg, Ffiseg, Peirianneg neu unrhyw gwrs Gwyddoniaeth mewn Addysg Uwch.
 - Prentisiaethau mewn Cyfrifiadureg
 - Cyflogaeth yn y sector TG
 
I gofrestru, bydd angen o leiaf 5 cymhwyster TGAU, gradd C neu uwch, gan gynnwys gradd B mewn Mathemateg/Mathemateg Rifedd neu radd A ar gyfer TGAU mewn Cyfrifiadureg.