Agored Cymru Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddorau Iechyd) Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Mynediad at Addysg Uwch
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Mae Gradd C neu uwch mewn TGAU Saesneg a Mathemateg yn ddymunol. Bydd gofyn i ddysgwyr sydd heb gymwysterau gael asesiadau rhifedd a llythrennedd a chyflawni Lefel 2 o leiaf.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn un delfrydol os ydych eisiau symud ymlaen i Addysg Uwch (AU) ac i broffesiwn gofal iechyd gwyddonol. Mae'n cynnig llwybr carlam (1 flwyddyn) ac yn rhoi'r cyfle ichi astudio ar gwrs gradd cysylltiedig â gwyddor feddygol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... hoffech fynd i'r brifysgol, ond fe wnaethoch adael yr ysgol heb y cymwysterau sydd eu hangen arnoch.
... ydych eisiau paratoi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol
... oes gennych ddiddordeb mawr mewn astudiaethau a gyrfaoedd cysylltiedig ag iechyd.
...ydych yn dychwelyd at addysg.
...ydych eisiau gyrfa mewn maes meddygol neu wyddonol - yn amrywio o ffisiotherapi i fferylliaeth, gwyddor iechyd, ciropracteg, radioleg, gwyddorau biofeddygol a llawer iawn mwy.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs hwn wedi ei gynllunio i roi cyfleoedd ichi symud ymlaen i wneud gradd gwyddorau meddygol (megis ffisiotherapi, gwyddor barafeddygol, radiograffeg, fferylliaeth, ffarmacoleg, gwyddor feddygol, biowyddorau, awdioleg neu giropracteg) neu radd wyddonol (bioleg, cemeg, ffiseg) ac yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y gwyddorau, i'ch helpu yn eich astudiaethau yn y dyfodol.
Mae'r unedau astudio yn cynnwys:
- Bioleg/Anatomeg a Ffisioleg (o leiaf 18 credyd*)
- Cemeg (o leiaf 15 credyd*)
- Ffiseg a Ffiseg Iechyd (6 chredyd)
- Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Addysg Uwch (6 chredyd)
- Rhifedd ar gyfer Gwyddoniaeth (9 credyd)
*Mae prifysgolion yn gofyn am gredydau penodol ar gyfer eu rhaglenni gradd gwyddoniaeth sy'n ymwneud â meddygaeth.
Mae'r cwrs hefyd wedi datblygu perthynas dda gyda nifer fawr o brifysgolion lleol y mae myfyrwyr blaenorol wedi llwyddo i gael lle ynddynt.
Asesir hyn drwy asesiadau mewnol ffurfiol. Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys aseiniadau, profion, cyflwyniadau llafar, tasgau ymarferol a thraethawd estynedig. Byddwch yn ennill Diploma Mynediad i Addysg Uwch - Gwyddor Iechyd Agored Cymru, y byddwch yn cael pwyntiau UCAS amdano.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae Gradd C neu uwch mewn TGAU Saesneg a Mathemateg yn ddymunol. Bydd gofyn i ddysgwyr sydd heb gymwysterau gael asesiadau rhifedd a llythrennedd a chyflawni Lefel 2 o leiaf. Mae hwn yn gwrs dwys sy'n gofyn am lefel uchel o ymrwymiad ac ymroddiad. Bydd disgwyl i ymgeiswyr fynychu pob sesiwn ac ymgymryd ag astudio annibynnol sylweddol.
Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn rhinweddau hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Mae'n rhaid cwblhau pob aseiniad yn llwyddiannus er mwyn ennill y cymhwyster.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd cwblhau'r Diploma Agored Cymru Mynediad i Addysg Uwch mewn Gwyddor Iechyd yn rhoi'r cyfle ichi symud ymlaen i Radd Sylfaen neu Anrhydedd briodol mewn pwnc meddygol neu wyddonol.
Wedi hynny, gall eich opsiynau gyrfa gynnwys:
- Gwyddonydd Clinigol
- Biocemegydd
- Biolegydd
- Biotechnolegydd
- Microbiolegydd
- Gwyddonydd Biofeddygol
- Ecolegydd
- Fferyllydd
- Ffarmacolegydd
Gwybodaeth Ychwanegol
*Mae prifysgolion yn gofyn am gredydau penodol ar eu rhaglenni gradd gwyddoniaeth sydd â chysylltiad meddygol.
Rydym yn cynghori dysgwyr i edrych ar ofynion mynediad prifysgolion, gan y bydd hyn yn amrywio o un sefydliad i'r llall.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFAC0030AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr