En

Dyma gyflwyno Megan, o fyfyriwr i fyd-eang


2 Mehefin 2025

Pan ymunodd Megan â Coleg Gwent am y tro cyntaf yn 16 oed, nid oedd hi’n sicr beth oedd gan y dyfodol i’w chynnig. Fel llawer o bobl ifanc, nid oedd ganddi lwybr gyrfa clir mewn golwg, ond roedd hi’n gwybod ei bod yn dwli ar gelf. Fe ddaeth y llygedyn hwnnw o greadigrwydd yn rhywbeth anhygoel. 

Heddiw, Megan yw perchennog balch The Face Boss, sef stiwdio colur a brand ffyniannus sydd wedi ennill dilynwyr ffyddlon, ei chymryd hi ar draws y byd, ac ennill cyfle iddi weithio â phersonoliaethau teledu, priodferched a charwyr harddwch ym mhob man.   

Mae Meg hyd yn oed wedi lansio cyfres o gynhyrchion blew amrant, ac mae’n darparu cyrsiau hyfforddi i’r genhedlaeth nesaf o artistiaid colur. 

Ond sut wnaeth popeth ddigwydd? Gyda chwrs mewn Colur Theatrig yn Coleg Gwent. 

Meddai Meg: “Roedd y cwrs yn wych achos fe wnaeth wir ddod â fi allan o fy mharth cysur a chyflwyno fi i fy nghariad tuag at baentio corff.”  

“Helpodd fi i fagu fy hyder a darparodd y sgiliau a’r cysylltiadau i fy mharatoi ar gyfer gyrfa yn y maes colur.” 

O ddysgu am sylfeini effeithiau arbennig a chelfyddydwaith theatrig i archwilio ei hochr greadigol, fe ddarparodd cyfnod Meg yn Coleg Gwent ofod iddi ddarganfod ei hangerdd – a’r anogaeth i fynd ar ei ôl. Roedd y gefnogaeth a gafodd gan ei thiwtoriaid wedi cael effaith barhaol arni hefyd. 

“Roedd fy nhiwtoriaid yn anhygoel, ac rydw i dal mewn cysylltiad â nhw heddiw. Roedd fy mhrofiad yn y coleg yn un gwych.” 

Ar ôl y coleg, enillodd Meg swydd gyda MAC Cosmetics, gan ymuno â’u tîm paentio corff a chymryd rhan mewn gweithgareddau ledled y DU. Fe wnaeth y profiad hwnnw helpu iddi feithrin ei henw da, mireinio ei sgiliau, ac yn y pen draw, cymryd y naid a dechrau ei busnes ei hun. 

Mae hi bellach yn artist colur hunangyflogedig, ac mae ei dyddiau’n llawn archebion ar gyfer priodasau, gweithdai creadigol a’r hyblygrwydd i allu teithio. 

“Rwy’n dwli ar bob agwedd ar beth rwy’n gwneud. Mae perchen fy musnes fy hun yn golygu bod gen i reolaeth dros fy nyddiadur. Roeddwn i hyd yn oed yn gallu teithio am bedwar mis-mae’n freuddwyd wedi’i gwireddu.” 

Beth yw canllawiau Megan ar gyfer pobl greadigol ar gyfer y dyfodol? 

“Byswn i’n annog unrhyw un i ddod i Coleg Gwent. Gwnaeth e helpu fi i fagu fy hyder a chymryd fy ngyrfa i’r lefel nesa.” 

Caru colur, celf neu bopeth creadigol? 

Mae Cymru yn llawn cyfleoedd yn y meysydd creadigol. O gelfyddydwaith colur i ddylunio meddalwedd ac adrodd straeon digidol, mae yna filoedd o fusnesau creadigol dim ond yn Ne Cymru, hyd yn oed. 

Os oes gennych chi angerdd am harddwch neu am archwilio gyrfa greadigol fel Megan, yna Coleg Gwent yw’r lle perffaith i ddechrau arni. Bydd ein tiwtoriaid yn eich cefnogi chi ar bob cam o’r ffordd, gan helpu chi i feithrin y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau sydd eu hangen arnoch. 

P’un a oes gennych chi ddiddordeb mewn colur theatraidd, effeithiau arbennig neu dim ond yn dwli ar helpu pobl i deimlo ar eu gorau, yn union fel Megan, byddwch yn dod o hyd i’r cwrs perffaith i chi allu rhyddhau eich creadigrwydd. 

Darganfyddwch ein cyrsiau trin Gwallt a Therapi Harddwch yma

Mae eich gyrfa greadigol yn dechrau nawr.