En
Newport half marathon runners

Coleg Gwent yn cefnogi achosion da


24 Chwefror 2020

Coleg Gwent champions good causes

Mae Hanner Marathon Casnewydd ar y gorwel, ac mae Coleg Gwent eisoes ar y blaen gyda’i gefnogaeth i achosion da!

Yn ogystal â noddi ras 10k Pont-y-pŵl Hosbis Dewi Sant a gynhelir cyn hir, mae Coleg Gwent newydd gyhoeddi ei bartneriaeth barhaus â’r elusen ac wedi dod yn noddwr swyddogol ar gyfer Hanner Marathon Admiral Casnewydd a gynhelir ar 1 Mawrth 2020. Mae’r digwyddiad elusennol yn un poblogaidd iawn yng nghalendr digwyddiadau y ddinas, a chredir mai 2020 fydd y mwyaf hyd yma, gyda thros 2000 o bobl yn cymryd rhan i godi arian y mae gwir angen amdano i gefnogi amrywiaeth o elusennau.

Sefydlwyd Hosbis Dewi Sant yn 1979 fel ‘Grŵp Prosiect Hosbis Gwent’ gan Heulwen Egerton MBE, tiwtor nyrsio yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd. Ar gychwyn eu gwaith roedd Hosbis Dewi Sant yn gofalu am chwe chlaf. Bellach, Hosbis Dewi Sant yw darparwr gofal hosbis yn y cartref mwyaf y DU, yn gofalu am fwy na 3,200 o gleifion a theuluoedd bob blwyddyn, am gost o dros £7.9 miliwn. Mae cefnogaeth Coleg Gwent i ddigwyddiadau codi arian, megis ras 10k Pont-y-pŵl a Hanner Marathon Casnewydd, yn hollbwysig ar gyfer parhad gwaith Hosbis Dewi Sant.

Dywedodd Christine Vorres, Codi Arian Hosbis Dewi Sant:

Mae’r arian a godir drwy gynnal y digwyddiadau hyn yn sicrhau ein bod ni’n gallu parhau â’n gwaith, a’r elfen bwysicaf er mwyn sicrhau bod digwyddiadau codi arian yn llwyddiannus yw caredigrwydd y gymuned fusnes leol.  Gan mai elusen ydym, mae angen inni ddefnyddio’r holl elw i helpu ein cleifion – felly rydym yn dibynnu ar noddwyr i’n helpu ni i dalu am gostau’r digwyddiad. Mae ein noddwyr yn ein helpu i ddarparu’r pethau bach sy’n gwneud y profiad yn well i redwyr, megis dyfeisiau sglodyn amseru, medalau a chrysau-t.

Bydd tîm ardderchog o Coleg Gwent yn rhedeg yn Hanner Marathon Admiral Casnewydd i godi arian at y gymdeithas MS, fel arwydd o gefnogaeth a ffyddlondeb i gydweithiwr sy’n byw gyda’r cyflwr. Mae’r gymdeithas MS wedi darparu cefnogaeth amhrisiadwy i’w cydweithiwr, felly penderfynodd y tîm godi arian i ddangos eu gwerthfawrogiad. Mae’r tîm yn cynnwys aelodau staff o nifer o adrannau gwahanol yn Coleg Gwent, a dyma’r hanner marathon cyntaf i lawer ohonynt.

Dywedodd Jo Harris, Dirprwy Reolwr Cyflogres:

I ddechrau, roeddwn yn ansicr iawn ynghylch rhedeg hanner marathon, mae 10k yn bellter rwy’n ei fwynhau. Ar ôl trafod gyda fy nheulu, cefais fy annog eto gan fy merch Sophie sy’n 10 oed a ddywedodd, “mi elli di wneud hyn”, felly rwyf wedi penderfynu rhedeg fy hanner marathon cyntaf gyda chefnogaeth fy nghydweithwyr i godi arian at elusen werth chweil. Mae’r hyfforddiant yn mynd yn weddol. Rwyf wedi llwyddo i redeg 10 milltir hyd yn hyn, ond nid yw’n hawdd o bell ffordd!”

Rydym wrth ein bodd yn cael cefnogi Hosbis Dewi Sant gyda’i ddigwyddiadau codi arian, ac yn edrych ymlaen at weld y bartneriaeth yn datblygu yn y dyfodol. Pe hoffech gefnogi ein tîm anhygoel yn Hanner Marathon Admiral Casnewydd i godi arian y mae gwir ei angen ar gyfer y Gymdeithas MS, ewch i www.justgiving.com/fundraising/coleg-gwent – mae pob cyfraniad yn cyfrif, felly byddem yn gwerthfawrogi unrhyw swm y gallwch ei roi (neu dewch i annog y tîm ar y diwrnod). Ac os ydych yn cymryd rhan / mynd i’r digwyddiad, pob lwc – rhowch wybod i ni sut hwyl y cawsoch a chofiwch anfon eich lluniau atom ni; byddem wrth ein bodd yn cael eu gweld!

Am ragor o wybodaeth ynghylch Hanner Marathon Admiral Casnewydd, ewch i http://cityofnewporthalfmarathon.com

Am ragor o wybodaeth ynghylch y cyrsiau rhagorol cysylltiedig â chwaraeon sydd gennym yn Coleg Gwent, ewch i www.coleggwent.ac.uk/our-college/facilities/sports