En
Rob Davies, pictured at Coleg Gwent's fitness suite.

Stori Rob - Wythnos Addysg Oedolion 2018


21 Mehefin 2018

Stori Rob - Wythnos Addysg Oedolion 2018

Mae Chwaraeon wedi bod yn agos at galon Rob erioed, “Rwyf wedi cymryd rhan mewn chwaraeon mewn un ffordd neu’r llall erioed – chwarae, gwirfoddoli a hyfforddi – ond ni ddisgwyliais y byddwn yn ei astudio ar gwrs prifysgol”.

Yn yr ysgol, cynghorwyd Rob, o Gwmbrân, i gwblhau ei lefelau A ond nid oedd yn mwynhau ei gyfnod yna, a gadawodd.

“Gweithiais mewn swyddi llafurus di-grefft am rai blynyddoedd. Parheais i hyfforddi rygbi a thrwy weithio gyda thîm rygbi lleol, cefais swydd yn hyfforddi mewn ysgolion drwy Gynghrair Rygbi Cymru, ond dim ond contract dros dro oedd hwn.”

Wedi iddo gael blas ar yrfa yn y byd chwaraeon, roedd Rob yn benderfynol o astudio a chofrestru ar gwrs gradd Sylfaenol mewn Hyfforddi Chwaraeon, Datblygiad a Ffitrwydd yng Ngholeg Gwent.

“Teimlais fod diffyg cymhwyster prifysgol yn cyfyngu opsiynau fy ngyrfa. Dewisais astudio yn y coleg yn hytrach na’r brifysgol gan ei fod yn arbed arian ac amser teithio.
Mae’r cwrs yn heriol – mae’r rhan fwyaf ohono yn waith theori – ond gwn y byddaf yn elwa o’r holl waith darllen pan fyddaf yn graddio ac yn dechrau chwilio am waith sy’n gwneud i mi fod eisiau codi o’r gwely yn y bore.”