En

Rhestr hapus yn dathlu athrawes


10 Medi 2018

Rhestr hapus yn dathlu athrawes

Mae’r darlithydd, Victoria English, wedi cael ei chynnwys ar 10fed Rhestr Hapus flynyddol The Independent oherwydd ei gwaith ar ymgyrchoedd iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc.

Mae Rhestr Hapus The Independent yn dathlu 50 o bobl eithriadol o bob cwr o’r DU am eu cyfraniadau i wneud Prydain yn lle hapusach i fyw oherwydd eu gwirfoddoli, mentora ac anhunanoldeb. Fe gafodd bob enillydd a gyrhaeddodd y rhestr ei enwebu gan eraill.
Mae’r darlithydd Gofal llawn amser, Victoria, sy’n gweithio ar gampws Crosskeys, wedi bod yn gweithio yn y Coleg am dros 12 mlynedd ar ôl dechrau fel myfyriwr TAR o Brifysgol Caerdydd.

“Rydw i’n falch iawn o fod wedi cael fy enwebu a fy nghydnabod ar y rhestr gan fod hyn yn dangos pa mor werthfawr yw gwaith codi arian ar gyfer elusennau, helpu eraill a phwysigrwydd ymgyrchoedd iechyd meddwl. Mae’n anhygoel cael fy nghynnwys gyda’r bobl arbennig eraill yma sydd ar y rhestr, pobl rydw i’n eu hedmygu’n arw,” meddai Victoria.

Fe gafodd Victoria, o Bont-y-pŵl, ei henwebu gan Anja Nielsenar ôl i’r ddwy gydweithio yn ddiweddar ar brosiectau’r Gymanwlad Frenhinol pan oedd Anja yn Swyddog Rhaglen i’r elusen. Mae’r ddwy wedi adnabod ei gilydd ers tair blynedd.
“Enwebais Victoria am ei bod hi’n ysbrydoliaeth pob dydd. Mae hi’n ymgyrchydd diflino dros hapusrwydd ac iechyd meddwl cadarnhaol ac mae’n cyfoethogi bywydau pawb sy’n dod i’w hadnabod yn bersonol ac yn broffesiynol.

Mae ei hymroddiad i’w myfyrwyr yn ysbrydoliaeth ac, o ganlyniad i hynny, mae’r myfyrwyr wedi llwyddo a chael profiadau gwych, y tu hwnt i’r hyn fyddai rhywun wedi gallu breuddwydio. Mae hi’n athrawes, ymgyrchwr a pherson gwych ac rydw i’n falch iawn (ond heb fy synnu) ei bod hi wedi cael lle ar y rhestr hon,” meddai Anja.
Cafodd Victoria, sy’n ymgyrchu i leihau’r stigma sy’n dod gydag iechyd meddwl, ei hysbrydoli gan ei myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd Victoria, “Rwy’n gweithio gyda grŵp arbennig o bobl ifanc sydd, er eu hanawsterau dysgu a’u problemau iechyd meddwl, yn dal i roi gymaint yn ôl i’r gymuned ac i eraill. Er hyn, yn aml iawn, nid yw eu lleisiau’n cael eu clywed ac nid oes cymorth ar gael iddynt.

“Mae’n syfrdanol fod 40% o bobl ifanc sydd ag anableddau dysgu yn debygol o ddioddef o broblem iechyd meddwl. Cefais fraw ar ôl gweld cyn lleied o adnoddau oedd yna i helpu i rymuso pobl ifanc gyda’r offer i ofalu am eu hiechyd meddwl.”
Mae Victoria, sydd wedi dioddef yn bersonol oherwydd gorbryder cyffredinol, wedi gweithio gyda chwmni Action for Happiness i ymgorffori adnoddau iechyd meddwl yn ei chwricwlwm dysgu. Mae’r ymgyrchydd Amser i Newid</a> hefyd yn darparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid ac yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar a thechnegau ymlacio gyda myfyrwyr yn ei dosbarth.
“Rydw i’n gweithio gyda’r Sefydliad Iechyd Meddwl i arwain menter Cyfeillion Cefnogol Iechyd Meddwl yn y coleg. Rydw i mor ffodus o gael rheolwr llinell mor dda, Debbie Field, sy’n cefnogi fy angen i ymgyrchu ac yn fy ngalluogi i fanteisio ar brofiadau gwych, nid yn unig i mi fy hun ond i fy myfyrwyr hefyd”, ychwanegodd Victoria.
Edrychwch ar ein dewis llawn o gyrsiau ym maes echyd a Gofal a darllenwch am y gefnogaeth sydd ar gael i rai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.