En
Group of Coleg Gwent learners at the Big Ideas Wales national finals

Prosiect Gwenyn myfyrwyr Coleg Gwent yn creu cynnwrf wrth gyrraedd rownd derfynol genedlaethol 'Syniadau Mawr Cymru'


29 Mawrth 2018

Prosiect Gwenyn myfyrwyr Coleg Gwent yn creu cynnwrf wrth gyrraedd rownd derfynol genedlaethol 'Syniadau Mawr Cymru'

O’r chwith i’r dde: Coran Colwell, Georgia Russell, Kirsty Goodwin, Abbey Rogers a Tyler Parnell yn cyflwyno canhwyllau cŵyr gwenyn a phecynnau anrheg mêl i feirniaid y gystadleuaeth ‘Syniadau Mawr Cymru’ Cystadleuaeth genedlaethol ar gyfer pobl ifanc entrepreneuraidd a dawnus rhwng 16 a 25 oed yw cystadleuaeth ‘Syniadau Mawr Cymru’ Llywodraeth Cymru.

Ar ddydd Sadwrn 24 Mawrth 2018, teithiodd pump o fyfyrwyr a darlithwyr o Goleg Gwent i rownd derfynol Syniadau Mawr Cymru a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor. Bu’r grŵp yn arddangos eu canhwyllau cŵyr gwenyn a’r jariau o fêl roeddynt wedi’u cynhyrchu fel rhan o’r fenter.

Cyflwynodd y gwenynwyr addawol a’r myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus o Barth Dysgu Blaenau Gwent eu prosiect ‘Honeybees’, gan greu cryn argraff ar y beirniaid!

Menter gymdeithasol yw <em>Honeybees, sy’n helpu i ddatblygu sgiliau busnes y dysgwyr fel rhan o’u cymhwyster dysgu yn seiliedig ar waith yng Ngholeg Gwent.

Gwnaeth y dysgwyr fwynhau’r prosiect yn arw: o ofalu am y gwenyn, i gasglu’r mêl a defnyddio sgiliau busnes, i ddysgu sgiliau cyfrifiadura, arlwyo a gwaith coed. Cafodd y grŵp hefyd brofiad ymarferol perthnasol a gwerthfawr.

Elwodd y myfyrwyr ar gymorth cynghorydd busnes o Busnes Cymru. Aethant i weithdai busnes wedi’u cynnal gan Syniadau Mawr Cymru, lle gwnaysbrydoethant ddatblygu cynllun busnes.

Canmolodd Kathryn Moffat, Pennaeth Astudiaethau Creadigol ac Egnïol lwyddiant y myfyrwyr yn cyrraedd y deg olaf yn y categori Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru, dywedodd: “Mae Honeybees yn brosiect rhagorol am ei fod yn dod â chymaint o bobl at ei gilydd mewn ffordd ysbrydoledig. O’r syniad cychwynnol, i’r canlyniad ar y diwedd, mae’r myfyrwyr wedi dysgu cymaint. Dyma’n union y math o brofiad ymarferol sy’n annog myfyrwyr i ddysgu mewn ffordd wahanol.

“Dylai holl ddarpar fyfyrwyr Coleg Gwent deimlo’n hyderus ein bod ni fel coleg yn gweithio gydag unigolion i wella eu hopsiynau cyflogaeth. Gobeithio y bydd y myfyrwyr hyn yn dod yn y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid!”

Mae’r cychod gwenyn wedi’u lleoli ar do’r campws ym Mhlaenau Gwent ac yn cael eu defnyddio ar gyfer peilliadau yn unig. Mae’r myfyrwyr wedi bod yn gwerthu’r mêl a’r canhwyllau yn lleol mewn marchnadoedd ffermwyr, tafarndai a busnesau gwely a brecwast.

Gyda’r tymor cynhyrchu mêl newydd yn rhedeg o fis Mai i fis Awst, mae’r myfyrwyr yn gobeithio gallu gwerthu eu cynnyrch ar ein gwefan yn ystod yr haf – felly cofiwch edrych am fanylion yma nes ymlaen eleni. Mae’r holl elw yn cael ei ail-fuddsoddi i’r fenter.

I gael gwybod rhagor am gyrsiau yng Ngholeg Gwent, ewch i: www.coleggwent.ac.uk