En
Why students love learning at Coleg Gwent!

Pam bod myfyrwyr wrth eu bodd yn dysgu yn Ngholeg Gwent!


3 Hydref 2019

Pam bod myfyrwyr wrth eu bodd yn dysgu yn Ngholeg Gwent!

Mae’n ‘Wythnos Caru ein Colegau’, felly rydym am eich cyflwyno i rai o’n dysgwyr, a rhannu eu llwyddiannau a’u taith drwy’r coleg hyd yn hyn gyda chi.

Dyma Jesse Moody, 18, myfyriwr Peirianneg Fecanyddol Lefel 2 ar ein campws yn Crosskeys, sy’n mwynhau elfennau ymarferol y cwrs yn y gweithdai, ac yn y dyfodol, hoffai fod yn berchen ar ei weithdy ei hun, yn gweithio gyda pheiriannau bach.

“Cefais fy magu ar fferm ac roeddwn bob amser yn ffidlan gyda pheiriannau. Rwyf wedi bod â diddordeb mewn peirianneg erioed. Mae’r holl staff a thiwtoriaid yn barod iawn i’ch helpu ac yn eich trin yn gyfartal.

“Roedd yn well gennyf y gweithdai ar gampws Crosskeys Coleg Gwent, o’i gymharu â cholegau eraill, ac roedd yr adborth gan ffrindiau a oedd eisoes yn astudio yn Coleg Gwent yn wych.”

Mae Jesse, sy’n gweithio fel prentis gyda Doncasters, yn bwriadu symud ymlaen at Lefel 3, ac efallai HND wedi iddo gwblhau Lefel 2.

“Gan fy mod wedi derbyn fy addysg o adref yn hytrach na’r ysgol, roeddwn yn bryderus iawn ynghylch mynd yn ôl i amgylchedd coleg, ond ymgartrefais o fewn dim,” ychwanegodd.

Fel un o golegau gorau Cymru, rydym yn falch iawn o’n hamrywiaeth a chanlyniadau, ac rydym yn anelu at gynnig rhywbeth i bawb. Cymerwch gip i weld beth sydd gennym ar eich cyfer chi!