En
3 students talking while walking in front of campus

NEWYDD! Canolfan addysg ôl-16 Torfaen


6 Ebrill 2018

NEWYDD! Canolfan addysg ôl-16 Torfaen

Yn 2020, bydd canolfan addysg ôl-16 Torfaen newydd Coleg Gwent (eto i’w henwi) yn gartref i holl addysg Safon Uwch Torfaen ac yn cynnig Bagloriaeth Cymru hefyd ynghyd ag ystod o gymwysterau lefel 2 a 3.
Mae’r ganolfan, sydd wedi ei lleoli yng Nghwmbrân, yn disodli tair uned chweched dosbarth ffrwd Saesneg yn y fwrdeistref, ac yn cael ei rheoli a’i chynnal gan Goleg Gwent mewn partneriaeth â’r cyngor. Yn gynnar yn 2020, bydd croeso i rieni a disgyblion fynychu ein digwyddiadau pontio cyn i’r ganolfan agor yn swyddogol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Bydd y campws, sydd â’i faes parcio ei hun, wrth ymyl siop Morrisons yng nghanol Cwmbrân ac yn agos iawn hefyd at yr holl gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.
Pam nad oes enw i’r ganolfan?
Dyma lle gallwch CHI chwarae rhan. Rydych yn chwilio am awgrymiadau ar gyfer y ganolfan ddysgu newydd, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar enw i’r ganolfan newydd, ar gyfer holl elfennau Safon Uwch Torfaen, anfonwch yr enw a’ch rheswm dros gynnig yr enw hwnnw drwy’r ddolen hon. Anfonwch eich cynnig erbyn.
Pa gyrsiau fydd ar gael?
Bydd y ganolfan yn cael ei chynnal yn debyg iawn i’r ffordd y rhedwn ein

Parth Dysgu Blaenau Gwent, lle llwyddodd myfyrwyr i ennill eu canlyniadau Safon Uwch gorau yn y fwrdeistref, erioed.
Yn ogystal â chyrsiau Safon Uwch a chyrsiau eraill, bydd y cyfleuster newydd yn cynnig cyrsiau i’r gymuned ynghyd â’r holl brif bynciau sydd eu hangen gan brifysgolion, gan gynnwys:

Cemeg
Ffiseg
TG / Cyfrifiadureg
Ffotograffiaeth
Celf
Drama/Astudiaethau Theatr
Seicoleg
Astudiaethau Busnes

…a llawer mwy!
Beth fydd yn yr adeilad?
Bydd cyfleusterau’r adeilad yn cynnwys:

caffi
neuadd berfformio
ystafelloedd dosbarth modern, labordai TG a gwyddoniaeth a stiwdio gelf
llyfrgell a chanolfan astudio
Wi-Fi am ddim
ystafelloedd distaw a mannau i ymlacio
mannau gweithio hyblyg
mannau cymdeithasol
swît gerdd a chyfryngau
loceri i fyfyrwyr
ystafell weddïo
gwasanaethau cefnogi myfyrwyr a chymorth technegol TG

Bydd yr adeilad yn gwbl hygyrch ac yn cynnwys cyfleusterau arbenigol i ddisgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN).