En

Myfyrwyr yn adeiladu eu ffordd i lwyddiant cenedlaethol


30 Gorffennaf 2018

Myfyrwyr yn adeiladu eu ffordd i lwyddiant cenedlaethol

Mae dau o fyfyrwyr Coleg Gwent wedi cyrraedd rowndiau terfynol SkillBuild, gan guro cant o’r prentisiaid plastro gorau yn y broses.
Cymerodd y Prentisiaid Keiron Edwards, 21 a David Kerr, 31 ran yn rownd derfynol chwe awr SkillBuild Cymru a gynhaliwyd yng Ngholeg Sir Gâr, lle’r oedd myfyrwyr yn cael eu beirniadu ar orffeniad eu gwaith plastro a chywirdeb eu prosiect meitrau a ffibrog.
SkillBuild yw’r gystadleuaeth aml-grefft fwyaf yn y DU ar gyfer hyfforddeion a phrentisiaid adeiladu. Mae’n cael ei ddarparu gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB). Mae sgiliau’r cystadleuwyr yn cael eu profi mewn rowndiau rhanbarthol ac yna cystadleuaeth drwy Gymru gyfan, cyn i’r prentisiaid llwyddiannus gystadlu yn erbyn eraill yn y rownd derfynol genedlaethol ym mis Tachwedd.
“Pan benderfynom gystadlu yn y rowndiau rhanbarthol yng Ngholeg Merthyr yn ôl ym mis Mawrth, gofynnom am wirfoddolwyr. Cymerodd y prentisiaid ran mewn cyfres o sesiynau ymarferol, a David a Keiron oedd yr ymgeiswyr gorau i gynrychioli’r coleg”, meddai Mark Stephen, Uwch Ddarlithydd Plastro.

Ar ôl casglu digon o bwyntiau i gyrraedd rownd derfynol Cymru, roedd rhaid i’r ddau arddangos paratoadau cychwynnol a gwaith ar rimynnau, gan gwblhau dau fath o blastro caled. Roedd gofyn iddynt wedyn greu cylch ffibrog a darnau syth o waith plastro, creu triongl i ddimensiynau penodol ac wedyn ei groestorri gyda chylch fel rhan o’r gystadleuaeth.

Dywedodd y Prentis Lefel 3 o Dredegar, Keiron, “Y rhan mwyaf heriol o’r gystadleuaeth oedd croestorri’r cylch, gan mai’n llawrydd yn unig y gellir torri’r hyd syth. Ni chawsom unrhyw fanylion am y gystadleuaeth ymlaen llaw chwaith. Felly, yn sicr, roedd ein sgiliau yn cael eu profi ar y diwrnod!”

Cwblhaodd David, Prentis Lefel 2, gwrs plastro gyda’r nos ar gampws Pont-y-pŵl yn y lle cyntaf. Roedd wedi mwynhau gymaint nes iddo newid ei swydd, gan gymryd cyflog is ac ennill prentisiaeth. “Roeddwn i a Keiron mewn sioc ond yn falch am y canlyniad. Rydym yn edrych ymlaen, er ein bod yn nerfus, i berfformio o flaen miloedd o wylwyr yn y rownd derfynol,” ychwanegodd David.

Bydd y gystadleuaeth derfynol Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Birmingham ym mis Tachwedd dros dri diwrnod.