En

Myfyrwyr Coleg Gwent ymhlith y gorau yn y byd


25 Medi 2018

Myfyrwyr Coleg Gwent ymhlith y gorau yn y byd

Mae un deg un o’n myfyrwyr wedi cyrraedd rownd derfynol genedlaethol cystadleuaeth WorldSkills UK mewn nifer o ddisgyblaethau, gan gynnwys gwyddor fforensig a chelf gemau 3D, gan guro myfyrwyr o golegau o bob cwr o Gymru.

Beth yw cystadlaethau WorldSkills UK? Mae cystadlaethau WorldSkills UK yn agored i fyfyrwyr a phrentisiaid o bob rhan o’r DU ac mae dau gam iddynt. Yn gyntaf, bydd myfyrwyr yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y rownd ragbrofol genedlaethol, a gynhelir ar lefel ranbarthol. Os yw’r myfyrwyr yn llwyddiannus yn eu rownd ragbrofol genedlaethol, byddant wedyn yn cael gwybod a ydynt wedi cyrraedd y rownd derfynol genedlaethol yn Birmingham, a gynhelir yn ystod 15 – 17 Tachwedd.

Cymerodd y un deg un myfyriwr o’r Coleg ran yn y camau rhagbrofol cenedlaethol ym mis Mehefin. Cynhaliwyd y rhain mewn colegau ym mhob cwr o Gymru. Daeth y myfyrwyr yn gyntaf ac yn ail yn ystod y rownd ragbrofol genedlaethol, a chawsant wybod eu bod wedi cyrraedd y rownd derfynol yn gynharach y mis hwn.

Dyma ddywedodd Richard Wheeler, Cydlynydd WorldSkills UK ar gyfer Coleg Gwent, “Dyma gamp a hanner gan yr holl gystadleuwyr, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r tiwtoriaid a’u hyfforddodd; mae’n waith caled, ond mae’n dod â llawer o foddhad. Ac wrth gwrs, llongyfarchiadau i’r myfyrwyr; mae eu hawydd i lwyddo wedi talu ar ei ganfed!”

Y myfyrwyr o Goleg Gwent sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol genedlaethol yw:
Celf Gemau 3D
Manraj Deol
Electroneg
Callum Gibbs, Samuel O’Connor
<u>Gwyddor Fforensig
Charlotte Hardy, Ben Lund Gwallt

Shannon Watkins
Therapi Harddwch – Dwylo a Wyneb
Lauren Evans
Therapi Harddwch – Corff
Rachel Watson, Rebecca Watson
Hyfforddwr/Anogwr Ffitrwydd
Stacey Davey, Lesley Jones

Fel rhan o’r rownd derfynol genedlaethol, bydd rhaid i’r myfyrwyr ehangu ar y sgiliau y gwnaethant eu harddangos yn y rownd ragbrofol genedlaethol a rhoi cynnig ar yr un heriau.

Yn siarad cyn y rownd derfynol genedlaethol ym mis Tachwedd, dywedodd Lauren Evans, a ddaeth yn gyntaf yn ei rownd ragbrofol genedlaethol ac sydd wedi cael lle yn y rownd derfynol: ” Roedd y profiad o fod yn rhan o’r gystadleuaeth yn hynod werthfawr ynddo’i hun. Yna, roedd dod yn gyntaf yn coroni’r cyfan. Roedd wir yn agoriad llygad ac fe wnaeth imi sylweddoli y galla i wneud unrhyw beth, dim ond i mi ganolbwyntio arno.
“Bydd y rownd derfynol yn rhoi sylw i’r un triniaethau â’r rhai oedd yn y rownd ragbrofol genedlaethol: glanhau llygaid, colur dydd, arlliwio blew amrannau a thriniaeth dwylo sylfaenol. “Rwyf am ymarfer ar y model y byddaf yn dod gyda mi bob wythnos tan y rownd derfynol yn Birmingham. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gystadlu yn WorldSkills UK a bod yn rhan o’r profiad.”
Cadwch olwg ar ein gwefan a’n sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol am y diweddaraf ynghylch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.