En

Myfyrwyr arlwyo yn ymuno â chogydd blaenllaw Cymreig yn ei gegin seren Michelin


8 Awst 2019

Myfyrwyr arlwyo yn ymuno â chogydd blaenllaw Cymreig yn ei gegin seren Michelin

Cafodd tri o’n myfyrwyr arlwyo ymuno â’r cogydd talentog James Sommerin i goginio bwydlen o ganapés yn ei fwyty seren Michelin ym Mhenarth.

Bu Amy Hughes, Ryan Ranby a Daniel Lewis yn codi awgrymiadau gwych yn ystod digwyddiad Fforwm y Cogyddion, a gynhaliwyd fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau dros wythnos i ddathlu cig oen Cymru, a chyhoeddi lansiad Academi Fforwm y Cogyddion yng Ngholeg Gwent fis Medi.

Cyraeddasant ar y diwrnod (dydd Llun, 5 Awst) i helpu i baratoi’r canapés a gosod y digwyddiad ar gyfer wyth deg o arbenigwyr coginio o ar draws Cymru a gafodd cipolwg ar waith arbennig James. Dywedodd James, “Ymdrechodd y myfyrwyr yn galed a gwnaethant ymdopi’n dda gyda rhai tasgau cymhleth a roddwyd iddynt. Roedd yn amlwg eu bod wedi eu hysbrydol, a braf iawn oedd gweld hynny.”

Bydd James a Georgia, ei ferch sydd hefyd yn gogydd sous iddo, yn ymuno â thri deg o gogyddion eraill o Gymru i ddarparu rhaglen astudio uwch i fyfyrwyr lletygarwch ac arlwyo yng Ngholeg Gwent. Dyma’r pumed mewn cyfres o Academïau Fforwm y Cogyddion mewn colegau ar lefel genedlaethol ble mae cogyddion yn dod at ei gilydd i bontio’ bwlch rhwng addysg a diwydiant, ac i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gogyddion drwy gyfoethogi’r cwricwlwm. Os oes gennych ddiddordeb mewn lletygarwch neu goginio, edrychwch ar ein cyrsiau lletygarwch ac arlwyo a gwnewch gais heddiw!”