En

Myfyrwraig yn llwyddo gyda'r Fyddin wrth Gefn


27 Mehefin 2018

Myfyrwraig yn llwyddo gyda'r Fyddin wrth Gefn

Mae myfyrwraig o Gasnewydd sydd yn ei hail flwyddyn yn y coleg wedi canfod y rysáit perffaith ar gyfer astudiaethau llwyddiannus trwy ddod yn gogydd gyda’r fyddin wrth gefn.

Pan nad yw mewn addysg amser llawn, mae Camilla Olsen wedi defnyddio ei horiau hamdden i roi hwb i’w CV a dysgu sgiliau newydd gyda Magnelfa 217 o 104 Catrawd y Magnelwyr Brenhinol ym Marics Rhaglan.

Bydd y cogydd 19 oed yn gwisgo’i hiwnifform patrwm aml-dir i Gampws Crosskeys yng Ngholeg Gwent heddiw i ddathlu Diwrnod y Lluoedd wrth Gefn, sy’n ddathliad cenedlaethol o’u cyfraniad i’r lluoedd arfog.

“Ymunais bron i flwyddyn yn ôl a gallaf ddweud yn onest mai dyna’r peth gorau wnes i erioed. Rwy’n falch iawn o fod yn filwr wrth gefn,” meddai Camilla, sy’n astudio cymwysterau gwasanaethau cyhoeddus. “Fel milwr wrth gefn, gallaf hefyd fyw bywyd sifil arferol a gwneud yr hyn rydw i fel arfer yn ei wneud o ddydd i ddydd.”

Mae milwyr wrth gefn yn ymrwymo 27 diwrnod i hyfforddi a gwasanaethu bob blwyddyn, ochr yn ochr â phersonél rheolaidd y lluoedd arfog. Maen nhw’n dod o hyd i gydbwysedd sy’n cyd-fynd â’u rolau bob dydd, waeth a ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth neu oes ydyn nhw am gydbwyso’r cyfan â bywyd teuluol.

Dywedodd Camilla: “Mae bod yn gogydd wedi bod yn werth chweil ac yn llawer o hwyl. Y prif reswm wnes i ymuno oedd er mwyn ennill mwy o sgiliau a chymwysterau ar gyfer y dyfodol. Mae wedi bod yn gwbl newydd i mi ac rydw i wedi cael llawer o hyfforddiant.

“Mae’r fyddin wedi bod mor hyblyg a dwi wedi gallu gweithio o gwmpas fy ngwaith coleg ac maen nhw’n blaenoriaethu hynny, felly dwi’n cael y cyfleoedd gorau gan y ddau. Rydyn ni i gyd yn cytuno bod addysg yn dod yn gyntaf ac mae bod filwr wrth gefn wedi rhoi sgiliau trosglwyddadwy sy’n help gyda fy astudiaethau.”

Daeth Camilla, neu Breifat Olsen fel y’i gelwir gan aelodau ei huned, yn gogydd cymwysedig ar ôl pasio pythefnos o hyfforddiant. Mae cogyddion yn chwarae rhan hanfodol trwy sicrhau bod personél y Gwasanaeth yn cael prydau iach lle bynnag maen nhw, beth bynnag fo’r amgylchiadau.

Mae 2,200 o filwyr wrth gefn yng Nghymru sy’n aelodau gwerthfawr o’r teulu Amddiffyn. Ar draws y Deyrnas Unedig, milwyr wrth gefn yw tua un rhan o chwech o’r lluoedd arfog ac mae ganddynt rôl hanfodol yn diogelu’r wlad.

Yn rôl Camilla, mae hi hefyd wedi rhoi hwb i’w rhagolygon gwaith yn y dyfodol trwy ddysgu am yr ochr weinyddol, cyllid a storio, yn ogystal â mwynhau cyfleoedd i deithio. Mae’r profiadau eang yn cynnig sgiliau sy’n drosglwyddadwy i bob agwedd ar fywyd sifil.

“Rwy’n gweithio mewn tîm ac yn cymryd rôl arwain, felly dwi wedi meithrin sgiliau cyfathrebu ac yn dod yn fwy hyderus yn siarad o flaen pobl,” meddai Camilla, sydd wedi helpu i fwydo mwy na 300 o bobl mewn ymarfer hyfforddi. ”

Mae fy sgiliau rheoli amser, ysgrifennu a TGCh wedi gwella ac mae’r rhain i gyd wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer fy astudiaethau.

“Y cymhelliant mwyaf yw cael fy ngwthio i fod y fersiwn gorau o fi fy hun. Mae’r milwyr wrth gefn wedi fy ngwneud i’n fwy ffit, yn gorfforol ac yn feddyliol, gan roi dealltwriaeth well i mi o ddisgyblaeth bersonol. ”

Yr wythnos hon, bydd cyfres o ddigwyddiadau cenedlaethol yn cyrraedd penllanw gyda Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yn Llandudno ddydd Sadwrn 30 Mehefin. Defnyddiwch #SaluteOurForces i ymuno yn y gweithgareddau ar-lein.