En

Mae ffotograffiaeth yn llygad y gwyliwr


18 Hydref 2018

Mae ffotograffiaeth yn llygad y gwyliwr

Ymwelodd ein myfyrwyr ffotograffiaeth Safon Uwch o Barth Dysgu Blaenau Gwent â gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol The Eye yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ddiweddar.

Ynglŷn â’r ŵyl
Sefydlwyd yr ŵyl, sy’n para tridiau ac sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd, gan ffotograffwyr ar gyfer ffotograffwyr a’r rhai sy’n gwerthfawrogi pob math o ffotograffiaeth.

Gwrandawodd y myfyrwyr ar gyflwyniadau gan ffotograffwyr blaenllaw a chael cyfle i weld gwaith ffotograffiaeth mewn nifer o arddangosfeydd ar y safle.

Aeth y dysgwyr i saith o ddarlithoedd ar draws y penwythnos, gan gynnwys darlith gan Kasia Wozniak sy’n arbenigo mewn ffotograffiaeth plât gwlyb a ffasiwn, a darlith emosiynol iawn yn ymwneud â ffoaduriaid ac ymfudiad gan Danilo Balducci a Neil Bennet, ffotograffydd o Gymru (sydd yn awr yn olygydd lluniau i News Corp Awstralia).
Cafodd y myfyrwyr hefyd gyfle i drin ffotograffau hanesyddol yn archifau’r Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys gwaith Edward S. Curtis ar yr Americaniaid brodorol.

Barn y Myfyrwyr
Buodd ein myfyrwyr yn rhwydweithio, yn holi cwestiynau a chawsant fudd o gael eu trochi mewn amgylchedd mor greadigol, gyda ffotograffwyr blaenllaw’r diwydiant.

Y myfyrwyr a aeth i’r wŷl:
Megan Thompson-18
Lucie O’Shea- 17
Kaitlyn Lewis- 17
Ellie Ball- 17
Ben Pinch- 17
Lauren Kelly- 18
Hailie Edwards- 17
Shannon Moores- 18

Dywedodd y myfyriwr, Kaitlyn Lewis, 17 oed: “Ers bod i’r darlithoedd, rwyf nawr yn deall nad yw ffotograffwyr yn cael eu lwc – maen nhw’n gwneud eu lwc.”
Dywedodd ei chyd-fyfyriwr Lucie O’Shea, 17 oed: “Rwyf wedi mwynhau’r profiad o ŵyl The Eye. Mae wedi rhoi ysbrydoliaeth, hyder yn ogystal ag annibyniaeth i mi.”
Hoffai Stacey Knight, darlithydd Safon Uwch, ddiolch i’r dysgwyr am eu brwdfrydedd dros y penwythnos, gyda sylw arbennig i’r arweinydd cwrs BA Ffotonewyddiaduriaeth Andrew Pearsall am y cyfle i gydweithio â Phrifysgol De Cymru ar y daith hon.
Yn sicr, bydd y profiadau hyn o fudd i waith Safon Uwch, datganiadau personol a cheisiadau ar gyfer cyrsiau gradd ffotograffiaeth y myfyrwyr, ond yn bwysicaf oll, mae’r myfyrwyr wedi ennill gwybodaeth werthfawr o ddigwyddiad mor bwysig yn y byd ffotograffiaeth.