En

Mae Coleg Gwent yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion 2018!


19 Mehefin 2018

Mae Coleg Gwent yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion 2018!

Mae Coleg Gwent yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion drwy roi cipolwg i chi o rai o’r myfyrwyr sy’n oedolion yr wythnos hon.
Dyma Kyle Jamie Eldridge sy’n fyfyriwr Blwyddyn 1 Busnes Est Diploma Lefel 3 ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent(BGLZ). Cyn hynny astudiodd Kyle Ddiplomâu ar gyfer Sgiliau mewn Astudiaethau Pellach a Choginio Proffesiynol (Lefel 1 ac yna Lefel 2).
Mae Kyle yn brofiadol iawn mewn addysg academaidd, llwyddodd y gŵr 21 oed o Y Fenni 3 TGAU mewn canolfan addysg leol cyn ymuno â’r coleg.
Dewisais y cwrs gwych hwn yng Ngholeg Gwent gan fy mod wedi cymryd diddordeb mawr mewn busnes ers peth amser erbyn hyn. Pan edrychaf ar yr adeilad hwn, gwelaf gyfleoedd ym mhob man.
“Rwy’n teimlo fy mod yn dysgu rhywbeth yma yn fy nghampws BGLZ ac rwy’n gobeithio y caf yr hyder i fynd i’r byd mawr i weithio”, meddai Kyle y myfyriwr.
Mae Kyle yn awtistig, a dwy flynedd yn ôl roedd yn ddigartref. Yn 16/17 fe astudiodd TGAU Mathemateg a Saesneg ochr yn ochr â chwrs Coginio yng Ngholeg Gwent. Enillodd radd C yn y ddau bwnc ac fe gafodd iPad am ei gyfradd bresenoldeb o 100% yn ei holl wersi. O ganlyniad i’w lwyddiant yn y cyrsiau TGAU, mae wedi gallu mynd yn ei flaen i astudio Lefel 3 Busnes ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent ac mae’n ystyried ymgeisio am le mewn prifysgol.
Fel dysgwr ALN, mae Coleg Gwent wedi cefnogi Kyle drwy roi cynorthwywyr dysgu ALN iddo yn ystod ei gyfnod yn y coleg, ac mae ef hefyd yn cael cymorth gan y tîm Ysbrydoli i Gyflawni, yn ogystal â’r Ganolfan Ddysgu yn BGLZ. Maent yn ei annog ac yn ei gefnogi, yn cynnig hyfforddiant sgiliau a gofal bugeiliol yn ystod ei amser fel myfyriwr.
Yn ogystal ag astudio’r cwrs BTEC, sydd yn cyfateb i Safon Uwch, mae Kyle yn chwarae rôl flaenllaw mewn gweithgareddau allanol yn y coleg, ac mae’n Ddirprwy Gynrychiolydd Dosbarth, yn Ysgrifennydd Undeb Myfyrwyr Coleg Gwent ac yn Llysgennad Myfyrwyr. Mae’n gwirfoddoli yn ei amser sbâr hefyd.
Beth yw ei gyngor i unrhyw un sy’n ystyried astudio gradd fel Kyle, neu astudio yng Ngholeg Gwent yn gyffredinol? “Ewch amdani, mae’n gwrs gwych!
Pan ddewch i mewn i’r adeilad hwn mae popeth yma ar eich cyfer. Mae cymaint o gyfleoedd yma. Mae llawer o bobl yn dymuno dod yma i astudio eu cwrs yn unig, ond mae cymaint o gyfleusterau eraill yma. Yng Ngholeg Gwent, mae’r gallu gennyf i greu fy llwybr gyrfa fy hun, mae campws BGLZ yn un o’r radd flaenaf.”