En

Logo newydd ar gyfer Cynghrair Gwirfoddol Torfaen wedi ei ddylunio gan fyfyriwr Coleg Gwent


8 Awst 2019

Logo newydd ar gyfer Cynghrair Gwirfoddol Torfaen wedi ei ddylunio gan fyfyriwr Coleg Gwent

Llongyfarchiadau i Lee Brakspears, myfyriwr gradd sylfaenol cyfathrebu graffig, am ddylunio logo newydd gwych ar gyfer Cynghrair Gwirfoddol Torfaen. Cafodd y logo llachar gyda lliwiau’r enfys ei greu gan Lee ar ôl i CGT – y Cyngor Gwirfoddol Sirol sydd yn cefnogi’r trydydd sector, sefydliadau a phartneriaid ledled Torfaen – ofyn i ni eu helpu i ail frandio.

Dywedodd y Darlithydd, Chris Ryan, “Roedd eu brand presennol wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd ac roedd angen ei adnewyddu. Felly, ymwelais â swyddfeydd CGT, gyda grŵp o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, i gwrdd â’r staff a ofynnodd i’r myfyrwyr ddyfeisio syniad am logo. “Bu’r myfyrwyr yn gweithio’n ddygn ar y prosiect am chwe wythnos, gyda chyfathrebu rheolaidd gyda’r CGT, cyn cyflwyno eu dyluniadau terfynol iddynt, ble cafodd logo Lee ei ddewis fel yr enillydd. “Ar y cyfan roedd yn brofiad gwych i’r holl fyfyrwyr. Bydd cael y profiad hwn mor gynnar yn y cwrs i weithio’n uniongyrchol gyda chwsmer, bod yn bresennol mewn cyfarfodydd, cyflwyno syniadau a datblygu eu gwaith eu hunain gydag adborth onest ac yna gweld eu gwaith yn cael ei ddefnyddio mewn senario’r byd go iawn yn help iddynt ddatblygu fel dylunwyr ac yn rhoi hyder iddynt wrth symud ymlaen i’r ail flwyddyn,”” ychwanegodd. Dywedodd Aimi Morris, uwch swyddog gweithredol yn CGT, “Roeddem wedi ein llethu gan frwdfrydedd ac ymrwymiad y myfyrwyr a ddaeth i gyflwyno eu syniadau. Roedd yr holl syniadau o safon uchel, ac nid oedd y dasg o ddewis yn hawdd. Roedd hyn yn gyfle gwych, nid yn unig i’r myfyrwyr, ond i CGT fel sefydliad, gan fod gweithio gyda sefydliadau partner a darparu cyfleoedd i bobl ifanc yn greiddiol i’n gwerthoedd.”