En
Learners using computers and robotics

Lansiad ein Prentisiaethau Digidol


29 Medi 2022

Fel coleg sy’n cydnabod pwysigrwydd sgiliau seiber a’u lle yng ngweithlu’r dyfodol, rydym yn falch o gyhoeddi cyflwyniad ein prentisiaethau digidol cyntaf, sy’n debygol o fod yn ddewis poblogaidd ymysg ein myfyrwyr sy’n ddeallus o ran technoleg.

Gyda’n Hwb Seiber newydd ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent a lansiwyd y llynedd fel rhan o Goleg Seiber Cymru, mae’r prentisiaethau hyn yn arddangos ein hymrwymiad diweddaraf i greu gweithlu yn y dyfodol sy’n meddu ar sgiliau digidol ar gyfer ardal De Cymru a thu hwnt.

Ar gyfer pwy mae’r prentisiaethau?

Yn ddelfrydol ar gyfer pobl ifanc sy’n newydd i’r sector, mae’r prentisiaethau’n cael eu lansio mewn partneriaeth â Rhaglen Brentisiaeth a Rennir Aspire, gyda’r ffocws ar swyddi mewn Datblygu a Chefnogi Datrysiadau TG. Nod y prentisiaethau hyn yw uwchsgilio a chyflogi ein pobl ifanc mewn swyddi lle bydd galw uchel yn y dyfodol, megis datblygu meddalwedd, datblygu gwefannau, profi meddalwedd, cefnogaeth meddalwedd a rheoli prosiectau meddalwedd. Rydym yn gweld mwyfwy o alw am weithwyr sy’n fedrus yn y meysydd hyn, sy’n gwneud y prentisiaethau digidol yn ddechreuad gyrfa gwych i bobl ifanc uchelgeisiol.

Mae’r cynllun yn ceisio rhoi hwb i dwf busnes yng Nghymru a mynd i’r afael â diweithdra, gan ddarparu cyfleoedd uchelgeisiol i bobl ifanc y wlad ar yr un pryd. Fel rhan o hyn, bydd rhaglen Aspire hefyd yn ymgysylltu ag ysgolion lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith o recriwtio prentisiaid ar gyfer y sector, gan arddangos sut mae’r llwybr hwn yn gyfle gyrfa dichonadwy.

Sut all cyflogwyr gymryd rhan?

Fel coleg, byddwn yn gyfrifol am ddarparu’r cymwysterau a fydd yn ffurfio rhan o’r prentisiaethau hyn ar gyfer pobl ifanc, ochr yn ochr â dysgwyr yn ennill profiad yn y gweithle gyda chyflogwyr lleol. Rydym ar hyn o bryd yn annog unrhyw gwmnïau sydd â diddordeb yn ein hardal leol i ymuno â ni yn y lansiad hwn drwy gyflogi prentis a helpu i wneud y cynllun hwn yn llwyddiant.

Mae llu o fanteision i gyflogwyr sy’n dewis bod yn rhan o hyn. Bydd y prentisiaid yn cael eu cyflogi ar y cyd ochr yn ochr ag Aspire, gyda thâl yn cael ei hwyluso drwy systemau Aspire hyd at ddiwedd y brentisiaeth. Bydd Aspire hefyd yn helpu i gydlynu a rheoli’r gwaith o recriwtio a chyflogi’r prentis, gan leihau’r gwaith gweinyddol sy’n ofynnol ar sefydliadau i gymryd rhan. Ar ôl llwyddo i recriwtio prentis, caiff swyddog mentora Aspire ei neilltuo i’w fentora a’i gefnogi drwy gydol ei daith brentisiaeth. Nid yn unig felly bod y rhaglen brentis digidol yn fanteisiol i ddysgwyr, ond hefyd mae’n fanteisiol i gyflogwyr lleol, gan gyflwyno talent a syniadau newydd i’r gweithlu.

Drwy gymryd rhan yn y cynllun hwn, bydd cwmnïau hefyd yn cael cyfle i gynnig sgiliau a hyfforddiant ychwanegol i aelodau staff presennol, gan sicrhau bod gan bob aelod o’u gweithlu’r wybodaeth ddiweddaraf.

Eisiau gwybod mwy?

Os ydych yn credu y gallai Prentis Digidol fod yn addas ar gyfer eich sefydliad chi, mae ein tîm yn awyddus i glywed gennych. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Tîm Prentisiaeth yn uniongyrchol, naill ai drwy e-bost apprenticeships@coleggwent.ac.uk neu dros y ffôn 01495 333777.