En

Helpwch i addurno'r ffrog blodau pabi ar gyfer elusen


19 Hydref 2018

Helpwch i addurno'r ffrog blodau pabi ar gyfer elusen

Gwahoddir myfyrwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd i helpu myfyrwyr y coleg i greu ffrog blodau pabi, er mwyn coffáu 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Mawr.
Mae myfyrwyr creadigol Coleg Gwent wedi diweddaru’n gelfydd symbol pabi traddodiadol y Lleng Brydeinig Frenhinol, gan greu fersiynau yn defnyddio lliwiau, defnyddiau a dyluniadau gwahanol. Mae’r grŵp o 48 o fyfyrwyr Lefel 3 wedi defnyddio technegau gan gynnwys trin defnydd, printio 2D a 3D ymhlith eraill fel rhan o’u cwrs Diploma Estynedig Celf a Dylunio UAL, i greu’r dyluniadau pabi.
Sut y gallaf gymryd rhan?

Bydd y pabïau ar werth am swm bychan ar gampws Crosskeys Coleg Gwent ar ddydd Mawrth 23 Hydref. Gall myfyrwyr a staff o’r coleg, yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd, brynu pabi a’i roi yn sownd i’r ffrog gyda phin ar y diwrnod yn nerbynfa campws Crosskeys. Bydd Ron Jones, goroeswr Auschwitz a chyn-filwr, yn dadorchuddio’r ffrog am 11am ar y diwrnod. Bydd y ffrog yn teithio i leoliadau eraill, gan gynnwys John Lewis a Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, ar ôl 23 Hydref hyd at Ddydd y Cofio (dydd Sul 11 Tachwedd). Dywedodd Natalie Thomas, Arweinydd Cwrs Celf a Dylunio UAL a darlithydd tecstilau a ffasiwn ar gampws Crosskeys: “Mae’n wych rhoi cyfle i’n myfyrwyr anrhydeddu Dydd y Cofio yn eu ffordd greadigol eu hunain gan ddefnyddio dulliau y maent yn eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut beth fydd y ffrog ac yn annog y cyhoedd i ddod draw i gampws Crosskeys er mwyn helpu i gyfrannu at y prosiect cyffrous hwn sy’n cefnogi achos teilwng.”

Mae’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan ym mlwyddyn gyntaf y cwrs dwy flynedd newydd a ddechreuodd ym mis Medi. Gan fod y coleg bellach yn ganolfan gymeradwy ar gyfer corff dyfarnu University of the Arts London, mae dysgwyr yn ennill ystod o sgiliau fel y gallant fynd ymlaen i ddilyn swyddi ym meysydd celf a dylunio, ffotograffiaeth, ffasiwn a thecstilau. Mae gennych amser o hyd i gofrestru ar, neu unrhyw un o bynciau celfyddydol eraill y coleg.