En

Dechrau newydd ... Diwrnod Myfyrwyr Newydd!


27 Gorffennaf 2018

Dechrau newydd ... Diwrnod Myfyrwyr Newydd!

Roedd ein Diwrnodau Myfyrwyr Newydd yn llwyddiant ar bob un o’n pum campws!
Ar ddydd Mawrth 3 a dydd Mercher 4 Gorffennaf croesawyd ychydig o dan 2,500 o fyfyrwyr i’r Coleg i gael cipolwg ar fywyd myfyrwyr, cyn iddynt ymuno â ni ym mis Medi.
Cymerodd y myfyrwyr ran mewn gwersi ‘blasu’, cawsant gwrdd â’u darlithwyr a rhoi cynnig ar yr her Total Wipeout a’r Bucking Bronco.
Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, edrychwch ar yr hyn bu’r myfyrwyr yn ei wneud drwy wylio’r fideo isod:

Ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent</a>, cawsom sgwrs gyda dwy ferch ifanc a fydd yn ymuno â ni ym mis Medi, Teri-Marie Williams ac Ellie Barnes.
Dywedodd Ellie, a fydd yn astudio cyrsiau Safon Uwch, “Mae Coleg Gwent mor lleol ac rwy’n adnabod llawer o bobl sy’n mynd i astudio yno”.
Ychwanegodd Teri, “Dewisais Goleg Gwent am fod yna amrywiaeth o opsiynau. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd”.
Ydych chi’n mynd i fod yn astudio gyda ni ym mis Medi?
Gwnewch gais heddiw.