En

Cyhoeddi Parth Dysgu Torfaen!


21 Tachwedd 2018

Cyhoeddi Parth Dysgu Torfaen!

Torrodd Cyngor Torfaen a Choleg Gwent y dywarchen gyntaf yn swyddogol ar gyfer canolfan ddysgu ôl-16 newydd Torfaen i nodi dechrau cyfnod newydd mewn addysg ar gyfer Torfaen.

Er bod y gwaith ar y sylfeini wedi hen ddechrau, roedd y seremoni swyddogol i dorri’r dywarchen yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn y gwaith o adeiladu’r ganolfan ddysgu newydd £24 miliwn, sydd i’w hagor ym mis Medi 2020.
Fel rhan o’r seremoni, datgelodd Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt a Phennaeth Coleg Gwent, Guy Lacey y byddai campws newydd Coleg Gwent yn cael ei alw’n Barth Dysgu Torfaen.

“Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig iawn yn hanes Torfaen”
Meddai Arweinydd Cyngor Torfaen, y cynghorydd Anthony Hunt: ‘Mae’r seremoni i dorri’r dywarchen ar gyfer Parth Dysgu Torfaen yn ddiwrnod pwysig i’r cyngor ac yn helpu sicrhau ffordd fwy cynaliadwy o gyflwyno addysg ôl-16 yn Nhorfaen. Mae ein hysgolion wedi ymdopi’n dda, ond mae’r amgylchedd ariannol yn cynrychioli heriau anferth nad ydynt yn debygol o ddod yn haws yn y blynyddoedd i ddod.
‘Ein cymhelliad bob amser yw ein dysgwyr, a sicrhau y medrent gael mynediad at y cwricwlwm ehangach posibl ac ansawdd darpariaeth i’r dyfodol. Mae datblygiad y safle ehangach yn cynrychioli cyd-fuddsoddiad o fwy na £27 miliwn ac yn mynd â chyfanswm y buddsoddiad cyfalaf mewn addysg yn Nhorfaen ers 2014 i ychydig dan £90 miliwn.’
Meddai’r Aelod Gweithredol dros Addysg, y cynghorydd David Yeowell: ‘Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig iawn yn hanes Torfaen ac mae’n wych gweld ein hysgolion yn cael eu cynrychioli yma heddiw. Mae’r symudiad o chweched dosbarth mewn ysgolion yn naturiol wedi cyflwyno rhai heriau, ond rwyf yn falch iawn o weld y cydweithrediad a ddatblygwyd gyda Choleg Gwent i sicrhau bod popeth yn cael ei gyflenwi i’r safon uchaf bosibl. Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at weld y dysgwyr cyntaf yn camu i mewn i Barth Dysgu Torfaen yn 2020.’

Ychwanegodd Pennaeth Coleg Gwent, Guy Lacey: ‘Mae heddiw yn garreg filltir allweddol o ran datblygu’r cyfleustra hynod hwn i Dorfaen gyfan. Mae’n ddathliad o’r hyn sydd i ddod ac edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu ein dysgwyr cyntaf pan agorwn y drysau yn 2020.’

Parth Dysgu Torfaen
Bydd campws newyddColeg Gwentyn dod yn gartref i holl addysg Lefel A Saesneg ei chyfrwng yn Nhorfaen ac yn cynnig Bagloriaeth Cymru ac amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol lefel 2 a 3 i fyfyrwyr.

Mae’r campws yn disodli tri chweched dosbarth ysgolion Saesneg eu cyfrwng yn y fwrdeistref. Caiff ei reoli a’i redeg gan Goleg Gwent, mewn partneriaeth â’r cyngor a bydd yn darparu llwybr i fyfyrwyr Torfaen i addysg uwch, hyfforddiant a chyflogaeth.
Mae Parth Dysgu Torfaen mewn lleoliad gwych drws nesaf i siop Morrisons yng nghanol Cwmbrân gyda chysylltiadau rhagorol gyda chludiant cyhoeddus a’r cyfleusterau yng nghanol y dref.Rhagor ar ein wefan.
Mae Parth Dysgu Torfaen yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y cyngor ac fe’i hariennir ar y cyd gan y cyngor a Llywodraeth Cymru.