En

Cogyddion Gorau Bryste yn Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesaf o Dalent


21 Tachwedd 2018

Cogyddion Gorau Bryste yn Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesaf o Dalent

Yn ddiweddar, helpodd pump o gogyddion mwyaf medrus Bryste 40 o bobl ifanc o dri choleg arlwyo i gyflwyno pryd o fwyd a oedd yn tynnu dŵr o’r dannedd i 70 o giniawyr yn un o’r colegau arlwyo enwocaf yn y wlad.

Codwyd bron i £500 i gefnogi pobl ifanc gyda chostau teithio pan maent ar brofiad gwaith, i brynu offer hanfodol a helpu colegau i ariannu ymweliadau gan gyflogwyr, tripiau a chostau teithio ysgolion sy’n ffrydio’r talentau i ddigwyddiadau yn y coleg.

Hanes y diwrnod
Agorodd Coleg Dinas Bryste dri o’i geginau addysgu i oreuon y proffesiwn coginio; cyn-fyfyrwyr o’r coleg arobryn gan gynnwys Josh Eggleton (The Pony & Trap), Peter Sanchez-Iglesias (Casamia) a Martin Burge (Farncombe Estate).

Daeth Penaethiaid Ysgol y diwydiannau gwasanaeth, arlwyo a lletygarwch o dri choleg: Coleg Dinas Bryste Coleg Weston Choleg Gwent, â thîm o fyfyrwyr gwasanaeth blaen tŷ a chegin i weithio yn y ceginau gyda’r cogyddion a chafodd pawb ddiwrnod cwbl ysbrydoledig.

Yn arwain y myfyrwyr o’r tri choleg a oedd yn cymryd rhan ar y diwrnod oedd Elisabeth Julienne o Gambas gyda’r cwrs cyntaf, Saravanan Nambirajan a Raju Raju o’r Mint Room ar y cwrs pysgod, Louise McCrimmon o Harvey Nichols ar y cwrs cig ac Istvan Ulmann o Berwick Lodge ar y pwdin. Yn arwain ‘blaen y tŷ’ oedd yr arbennig Sarah Arikan, Perchennog Berwick Lodge ac arbenigwr Blaen Tŷ.

Noddwyd yr holl gynhwysion a diodydd ar gyfer y cinio yn garedig gan Koppert Cress, Fish for Thought, Walter Rose & Son Brindisa a Santa Maria.

Trefnwyd y cinio i godi arian at Sefydliad Addysgol Fforwm y Cogyddion.

yw Fforwm y Cogyddion?

Sefydliad a ymgorfforwyd gan Catherine Farinha ac Alexandra Duncan ym mis Hydref 2016 i godi arian hanfodol i helpu pobl ifanc dan anfantais i fynd i mewn i’r busnes lletygarwch, drwy eu cysylltu â chyflogwyr a darparu cymorth ac offer hanfodol.
Cynhaliwyd Cinio’r Cogyddion gan Fforwm y Cogyddion, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn. Pwysleisiodd Coleg Dinas Bryste ei ymrwymiad i’r fenter wrth ysbrydoli cogyddion ifanc, cyfoethogi eu dysgu a chreu cysylltiadau cryf gyda chyflogwyr blaenllaw yn y diwydiant.

Llwyddiant ysgubol
Gyda’i gilydd, fe wnaeth y cogyddion a’r myfyrwyr greu a gweini pryd pedwar cwrs i tua 70 o weithwyr proffesiynol o’r diwydiant arlwyo a oedd yno i gysylltu â’r genhedlaeth nesaf o dalent a hefyd cael cyfle i drafod gyda’u cyfoedion a’u cyflenwyr.
Dywedodd Helen Lawless, Pennaeth Ysgol (Gwasanaethau i Bobl):”Roedd hwn yn gyfle gwych i’n dysgwyr arddangos y sgiliau a’r profiad a ddatblygwyd ganddynt yn y coleg i’r arbenigwyr a’r gweithwyr proffesiynol yn y fforwm. Roedd y bwyd a’r gwasanaeth yn ardderchog ac mae ein dysgwyr yn teimlo eu bod wedi cael ysbrydoliaeth ar ôl digwyddiad mor llwyddiannus.”

Dywedodd Kevin Fairlie, Darlithydd, Campws Crosskeys: “Trefnwyd y digwyddiad hwn gan fforwm y cogyddion i ysbrydoli ein cogyddion ifanc, y myfyrwyr gwasanaeth bwyd, gan roi cyfle iddynt weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
“Roedd y safonau’n uchel iawn a llwyddodd ein myfyrwyr i gynrychioli’r coleg yn dda dros ben. Da iawn i’r rhai a gymerodd ran, roeddech yn glod mawr i ni. Roedd y digwyddiad cyfan yn ysbrydoledig iawn ac roedd sylwadau am ein myfyrwyr gan rai o’r trefnwyr yn glodwiw iawn”, ychwanegodd Kevin.