En

'Cartref oddi cartref' diolch i weithgareddau codi arian yng Ngholeg Gwent


5 Gorffennaf 2018

'Cartref oddi cartref' diolch i weithgareddau codi arian yng Ngholeg Gwent

Mae staff yng Ngholeg Gwent wedi bod yn brysur yn codi arian tuag at Ronald McDonald House Bryste, i gefnogi cydweithiwr Paul Mugleston a’i ferch deirblwydd oed, Ruby.

Fe gafodd Ruby ei derbyn i’r uned gofal dwys pediatrig yn Ysbyty Plant Bryste ar ôl ei phen-blwydd yn dair oed fis Tachwedd y llynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, arhosodd y Rheolwr Systemau TGCh, Paul, a’i wraig yn Ronald McDonald House Bryste er mwyn cael bod yn agos at yr ysbyty, cyn symud i lety CLIC Sargent yn ystod camau dilynol triniaeth Ruby. Mae Ronald McDonald House Bryste yn darparu llety a chefnogaeth am ddim, gan gynnwys cymorth a chyfleusterau londri a chegini deuluoedd sydd â phlentyn mewn ysbyty filltiroedd oddi cartref.

Yn gynharach eleni, cerddodd Rheolwr Gwasanaethau y Ganolfan Adnoddau Dysgu, Kevin Arscott, bellter pum campws Coleg Gwent, o Abercarn i Lynebwy drwy Crosskeys, Casnewydd, Brynbuga a Phont-y-pŵl (53.6 milltir), a hynny mewn llai na 23 awr. Cododd mwy na £1,300 tuag at yr elusen wedi iddo gwblhau ei daith yn gynharach yn y mis, “A minnau’n rhiant fy hun, anodd yw dychmygu’r dioddefaint a’r boen emosiynol a wynebir gan eraill.

“Trwy fy nghydweithiwr deuthum yn ymwybodol o’r elusen wych hon sy’n darparu nid yn unig llety am ddim, ond ‘cartref oddi cartref’ ger yr ysbyty i’w ddefnyddio gan y teuluoedd”, parhaodd Kevin.

Ym mis Medi, bydd Dan Coles – Pennaeth Prosiectau a Chyllid, ynghyd â’i gydweithwyr Alex Anderson – Pennaeth Datblygu Ystadau a Chyfleusterau ac Ian Rowe – Pennaeth Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd, sydd wedi’u lleoli ar gampws Brynbuga, yn rhoi cynnig ar Her y Tri Chopa, gyda’r nod o’i chwblhau mewn 15 awr.
Bydd y tri ohonynt yn cymryd rhan yn yr her ar ddydd Sadwrn 22 Medi, ac yn anelu i gasglu £2,280 tuag at yr elusen. Helpwch nhw i gyrraedd eu targed drwy gyfrannu drwy eu tudalen Just Giving: