En
Coleg Gwent achieves Carer Friendly accreditation

Coleg Gwent yn derbyn achrediad Carer Friendly


12 Ebrill 2022

Yn 2020, dyfarnwyd y statws achrededig Safon Ansawdd mewn Cymorth i Ofalwyr (QSCS) i ni yng Ngholeg Gwent er mwyn cydnabod ein hymdrech arbennig wrth ofalu am ein gofalwyr ifanc yn y coleg. Nawr, rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni hefyd wedi derbyn achrediad Carer Friendly am ein gwaith parhaus wrth gefnogi ein cymuned o ofalwyr ifanc.

Nid yw llawer o ofalwyr ifanc yn ystyried eu hunain yn ofalwyr gan eu bod o’r farn eu bod yn gwneud yr hyn sy’n ddisgwyliedig ohonynt. Ond, gofalwr ifanc yw unrhyw berson o dan 18 mlwydd oed sy’n gofalu am berthynas sydd ag anabledd, cyflwr iechyd meddwl, salwch, neu broblem yn ymwneud â chyffuriau/alcohol, ac oedolyn ifanc sy’n ofalwr yw rhywun rhwng 18 a 24 oed sy’n gofalu am berson arall. Gall y cymorth hwn amrywio o goginio, glanhau a gofalu am frodyr neu chwiorydd, i helpu perthynas wrth ymolchi, wrth wisgo neu wrth reoli meddyginiaeth.

Mae gofalu am berthynas yn gyfrifoldeb mawr, sy’n gallu achosi straen i ofalwr ifanc a’i wneud i deimlo’n flinedig ac ynysig. Er gwaethaf eu hymrwymiadau gofal yn y cartref, mae gan ofalwyr ifanc yr hawl i barhau â’u haddysg – mae’n rhan hanfodol o’u llesiant. Ond mae bod yn ofalwr yn gallu cael effaith ar waith coleg oherwydd mae’n bosib nad yw gofalwyr yn cael digon o amser i gwblhau gwaith cartref neu’n methu gwersi oherwydd eu gwaith gofalu. Rydyn ni yma yng Ngholeg Gwent er mwyn cefnogi gofalwyr ifanc i gyrraedd eu potensial.

Sut mae Coleg Gwent yn cefnogi gofalwyr ifanc

Rydym wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi, ofalwyr ifanc, i gael mynediad at addysg, fel nad yw eich cyfrifoldebau fel gofalwyr yn tarfu ar eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae llwyddiannau addysgol a datblygiad gofalwyr ifanc yn gallu cael eu heffeithio’n sylweddol heb gefnogaeth, ac rydyn ni’n gwybod bod y pandemig wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ein gofalwyr ifanc, gan gael effaith arwyddocaol ar eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Ond mae ein drysau yn agored bob amser. Rydyn ni’n barod i fod yn glust i’ch profiadau, a chynnig cefnogaeth er mwyn i chi gymryd cam ymlaen.

Gallwch siarad â’ch tiwtor personol os ydych chi angen cymorth neu gefnogaeth boed hynny o fewn neu y tu allan i’r coleg. Felly, os ydych chi’n ofalwr ifanc, gallwch hysbysu’ch tiwtor personol o’ch cyfrifoldebau fel gofalwr os na wnaethoch hynny eisoes wrth gofrestru. Yna, gall eich tiwtor personol gydweithio gydag Arweinydd Gofalwyr y Campws er mwyn dewis yr aelod o staff cymorth a fyddai’n gallu eich cefnogi.

Mae sawl ffordd y gallwn ni eich helpu chi, ofalwyr ifanc:

  • Addasu amserlenni (os ydych chi angen cyrraedd yn hwyr neu adael yn gynnar) er mwyn i bresenoldeb beidio amharu ar eich Lwfans Cynhaliaeth Addysg
  • Eich cyfeirio at gronfeydd ariannol er mwyn eich galluogi i fynd ar deithiau neu gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol
  • Caniatáu seibiannau a gadael i chi ddefnyddio mannau tawel
  • Rhoi o’n hamser i gwrdd â chi yn breifat a thrafod yr hyn sy’n digwydd yn eich cartrefi
  • Trefnu bod gennych gyfaill i wneud nodiadau/rhannu nodiadau pan rydych chi’n hwyr neu pan mae’n rhaid i chi adael yn gynnar
  • Ymestyn terfynau amser pan mae’n rhaid i chi roi mwy o gymorth i’r person rydych chi’n gofalu amdano
  • Cynnig help llaw i rieni i deithio i nosweithiau rhieni os ydynt yn cael anhawster gadael y tŷ
  • Eich cyfeirio at glybiau gwaith cartref er mwyn i chi allu cwblhau unrhyw waith rydych wedi’i fethu
  • Trefnu cefnogaeth y tu allan i’r dosbarth (Inspire, hyfforddwr personol, cwnselydd, gwasanaethau allanol ar gyfer gofalwyr ifanc)
  • Eich caniatáu i ddefnyddio eich ffôn yn ystod amser egwyl a chinio fel eich bod yn gallu cadw golwg ar y person rydych yn gofalu amdano
  • Mae gan y coleg berthynas waith da â gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Barnardo’s sydd wedi adnabod y gofalwyr ifanc sy’n dod i’r coleg. Mae Barnardo’s yn cynnig sesiynau galw heibio unwaith y mis ar gyfer gofalwyr ifanc y coleg ac yn cwrdd â nhw yn unigol hefyd.

Mae’r cymorth a’r gefnogaeth ychwanegol hyn yn gwella llesiant a hunanwerth gofalwyr ifanc, ac yn eu cefnogi i fynychu’r coleg ac i ennill graddau da. Mae hyn yn hollbwysig ar gyfer gofalwyr ifanc, ac rydyn ni yn y coleg, yn falch o fod o gymorth wrth leihau’r bwlch addysgol ar gyfer gofalwyr ifanc gan gynnig cyfleoedd ychwanegol iddynt er mwyn eu galluogi i symud ymlaen at addysg uwch a chael gwaith.