En

Ansicrwydd pobl ifanc yn eu harddegau yng nghymru ynglŷn â chyfeiriad eu haddysg


5 Mawrth 2019

Ansicrwydd pobl ifanc yn eu harddegau yng nghymru ynglŷn â chyfeiriad eu haddysg

Mae bron i draean o bobl ifanc yn eu harddegau ym Mhrydain yn pryderu y bydd eu haddysg dros y blynyddoedd nesaf yn ‘wastraff amser’ ac yn ansicr am gyfeiriad eu haddysg a’u gyrfaoedd – gyda <span style=”text-decoration: underline;”><strong>phlant yng Nghymru ymysg y rhai mwyaf tebygol o ystyried mai’r tablau cynghrair yw prif ganolbwynt y system addysg (24%).

Archwilio’r ymchwil
Mae astudiaeth genedlaethol newydd o dros 1000 o unigolion 13-16 oed yn dangos bod dau draean (66%) o’r ymatebwyr yn credu mai’r tablau cynghrair a graddau academaidd yw prif ganolbwynt ein system addysg ar hyn o bryd, yn hytrach na gyrfaoedd y dyfodol (13%) neu les (9%).

Mae canolbwyntio ar gyrhaeddiad academaidd fel hyn yn cael effaith frawychus ar ddyfodol pobl ifanc – gyda thraean (33%) yn datgan nad oes ganddynt syniad am ba lwybr gyrfa i’w ddilyn ac 17% yn dweud nad oes ganddynt syniad am unrhyw opsiynau ar wahân i lwybrau academaidd traddodiadol, fel Lefel A.