En

10 rheswm i garu Coleg Gwent


18 Hydref 2018

10 rheswm i garu Coleg Gwent

Chwilio am reswm i Garu Ein Colegau? Edrychwch dim pellach, mae gennym 10 ohonynt ar gyfer Coleg Gwent yma:

1. Cyfraddau llwyddiant trawiadol

Yn 2017/18:

Y gyfradd lwyddo mewn Safon Uwch yn 98.1%
Llwyddiant 100% mewn 27 o bynciau

313 (40.9%) o’r myfyrwyr Diploma Estynedig yn ennill Rhagoriaeth drebl – yn cyfateb i 3 gradd A Safon Uwch

2. Llwybrau cynnydd a llwybrau llwyddiant clir – os ydych yn symud ymlaen at lefel astudio nesaf un o’r Graddau Sylfaen, rydym yn eich cynorthwyo i gynllunio’ch llwybr tuag at gyflawni eich amcanion gyrfaol.

3. Cysylltiadau cryf gyda chyflogwyr sy’n darparu cyfleoedd profiad gwaith, prentisiaethau a gwaith ar leoliad.

4. Mae ein tiwtoriaid profiadol yn arbenigwyr yn eu maes felly y goreuon fydd yn eich dysgu.

5. Cefnogaeth i bob dysgwr er mwyn i chi ragori yn eich maes, ynghyd â chymorth dysgu ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu a/neu anableddau.

6. Mae ‘na rywbeth arbennig amdanom ni – mae sesiynau Materion Dydd Mercher yn cynnig gweithgareddau cyfoethogi profiad fel chwaraeon, clybiau a chymdeithasau, codi arian a gwirfoddoli, rhaglen Dug Caeredin a llawer mwy.

7. Mae ein cyfleusterau arbenigol fel ein salonau harddwch a thrin gwallt, stiwdios recordio, canolfan profi nwy ACS, canolfan Baxi, canolfan moduro ATA, tŷ bwyta Morels, theatrau perfformio a ffarm weithiol oll yn rhoi profiadau technegol ymarferol y byddwch yn eu defnyddio wrth eich gwaith.

8. Rydyn ni’n gwrando ar ein myfyrwyr ac yn defnyddio’r adborth a geir oddi wrthoch chi i wella’r profiad a gewch yn y coleg – rydyn ni wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ein gweithgareddau llais y dysgwr.

9. Mae llwyth o ddewis ymhlith y cyrsiau rydyn ni’n eu cynnig – 34 o bynciau Safon Uwch a dros 150 o gyrsiau galwedigaethol llawn amser, yn ogystal â 36 o gyrsiau ar lefel Prifysgol.

10. Gallwch astudio rhywbeth rydych chi’n teimlo’n angerddol drosto, rhywbeth y mae gennych CHI ddiddordeb ynddo, rhywbeth yr ydych CHI wedi ei ddewis a rhywbeth yr ydych CHI am ddilyn gyrfa ynddo.