En

Cyn aelod o'r Lluoedd Arfog

Ydych chi'n gyn aelod o'r Lluoedd Arfog?

Cymaint o wybodaeth a phrofiad… ydych chi’n gyn aelod o’r Lluoedd Arfog ac yn pendroni ynghylch beth yw gwerth y wybodaeth a’r sgiliau rydych wedi meithrin yn ystod eich gwasanaeth, yn ôl yn y byd sifilaidd?

O dan y cynllun Credydau Dysgu Uwch, mae cynllun ELCAS wedi ei ddylunio i gynorthwyo Personél y Lluoedd Arfog, Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) gyda hyfforddiant fydd yn cyfoethogi eu gyrfa bresennol, neu yn y dyfodol.

Mae’r cymorth hwn ar ffurf taliad blynyddol am hyd at dair blynedd.

Gall personél sydd wedi gadael y Lluoedd Arfog ennill hyd at ddau draean o radd israddedig a hyd at ddau draean o radd meistr, yn seiliedig ar y wybodaeth a hyfforddiant maent wedi eu meithrin wrth wasanaethu.  Mae’r cynllun yn asesu eich sgiliau a phrofiad gan gynnwys y rheiny rydych wedi meithrin heb hyfforddiant ffurfiol. Nid yw’n angenrheidiol eich bod yn meddu ar gymwysterau ffurfiol megis TGAU a Lefel A i gychwyn y cwrs.

Mae’n gyfle gwych i chi ganfod pa bosibiliadau sydd yn bodoli i chi, ac i gael ychydig o fantais mewn cychwyn gyrfa newydd. Dewch i un o’n diwrnodau agored i ganfod mwy…

Cynllun ELCAS

Mae’r Cynllun Credydau Dysgu Uwch (ELC) gan MOD yn hyrwyddo dysgu gydol oes ymhlith aelodau’r Lluoedd Arfog. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol ar ffurf un taliad unigol ymlaen llaw hyd at gyfnod o dair blynedd ariannol ar wahân. Atgoffir fod cyllid ELC ar gael wrth ddilyn addysg lefel uwch yn unig e.e. cyrsiau sydd yn dyfarnu cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ar Lefel tri neu uwch ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NQF) (Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru), Lefel chwech neu uwch ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau’r Alban (SCQF), neu, os dilynir dramor, cymhwyster rhyngwladol cyfwerth ardystiedig gyda darparwr dysgu wedi ei gymeradwyo.